The Silence of the Lambs (ffilm)
(Ailgyfeiriad o The Silence of the Lambs)
Mae The Silence of the Lambs (1991) yn ffilm arswyd seicolegol a gyfarwyddwyd gan Jonathan Demme ac sy'n serennu Jodie Foster, Anthony Hopkins, Scott Glenn, Anthony Heald a Ted Levine. Mae'r ffilm yn seiliedig ar nofel o'r un enw gan Thomas Harris, ei ail nofel yn darlunio Dr. Hannibal Lecter, seiciatrydd gwych a llofruddiwr canibalaidd. Yn y ffilm, mae Clarice Starling, gwraig ifanc sy'n hyfforddi gyda'r FBI, yn troi at Lector sydd yn y carchar am ei bod eisiau ei gyngor ynglŷn â dal llofrudd arall sy'n cael ei adnabod yn unig fel "Buffalo Bill". Enillodd y ffilm bump o Wobrau'r Academi gan gynnwys y Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Sgript Orau, Actor Gorau a'r Actores Orau.[1]
![]() Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Jonathan Demme |
Cynhyrchydd | Kenneth Utt Edward Saxon Ron Bozman |
Ysgrifennwr | Ted Tally |
Serennu | Jodie Foster Anthony Hopkins Scott Glenn Ted Levine Anthony Heald Brooke Smith Frankie Faison Harry Northup |
Cerddoriaeth | Howard Shore |
Sinematograffeg | Tak Fujimoto |
Golygydd | Craig McKay |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Orion Pictures |
Amser rhedeg | 118 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ 'Silence of the Lambs' Sweeps 5 Major Oscars LA Times; adalwyd 13 Ebrill 2009