Maimonides
Athronydd a chyfreithegwr Iddewig, ysgolhaig y Tora a'r Talmwd, meddyg, a seryddwr o Al-Andalus oedd Moses Ben Maimon Ben Joseph a adwaenir gan yr enw Maimonides (30 Mawrth 1135 – 13 Rhagfyr 1204).[1]
Maimonides | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mawrth 1138, 30 Mawrth 1135 Córdoba |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1204 Cairo |
Dinasyddiaeth | Al-Andalus |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, meddyg ac awdur, rabi, seryddwr, Dayan, ysgrifennwr, meddyg |
Swydd | nagid yr Aifft |
Adnabyddus am | Mishneh Torah, The Guide for the Perplexed, Pirush Hamishnayot, Epistle to Yemen, Sefer Hamitzvot, Hakdamot HaRambam, Treatise in Eight Chapters, Treatise on logic |
Prif ddylanwad | Avicenna, Al-Farabi, Muhammad ibn Yaḥyá ibn Bājjah,, Aristoteles, Averroes |
Tad | Maimon ben Yossef HaDayan |
Plant | Abraham ben Moses ben Maimon |
llofnod | |
Ganed yn Córdoba yn ne penrhyn Iberia, yn Ymerodraeth yr Almorafidiaid, a leolir bellach yn Andalucía, Sbaen. Dechreuodd ymddiddori yn athroniaeth a'r gwyddorau naturiol yn ei ieuenctid, a darllenodd yn frwd weithiau'r ysgolheigion Islamaidd yn ogystal â chyfieithiadau Arabeg o athronwyr Groeg yr Henfyd. Nodweddai ei feddwl o'r cychwyn gan resymoledd gryf a chyfundrefnol ac atgasedd at gyfriniaeth ac aneglurder. Yn sgil gorchfygiad yr Almorafidiaid gan Galiffiaeth yr Almohadiaid yng nghanol y 12g, ffoes Maimonides a'i deulu i Fès yng ngogledd-orllewin Affrica, a gorfu iddynt droi'n Fwslimiaid.
Aeth Maimonides ar daith yn 1165 i'r Tir Sanctaidd, ac ymwelodd ag Acre, Jeriwsalem, ac Hebron cyn iddo ymsefydlu gyda'i frawd yn Fustat, Hen Gairo, yn yr Aifft. Daeth Swltaniaeth yr Ayyubid i rym yno yn 1171, a dan lywodraeth y Swltan Saladin nid oedd yn rhaid i'r Iddewon guddio'u ffydd. Enillodd Maimonides ei damaid fel gemydd a meddyg, tra'n dal at ei astudiaethau athronyddol a chrefyddol. Yn 1177 cydnabuwyd Maimonides yn bennaeth ar y gymuned Iddewig yn yr Aifft, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn un o feddygon llys Saladin. Bu farw yn Fustat yn 68 oed, a chleddir ei gorff yn Tiberias.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Moses Maimonides. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mawrth 2020.