Thomas Ceiri Griffith

Ffisegydd ac achyddwr o Gymru oedd Thomas Ceiri Griffith (192526 Mawrth 2016)[1].Yn hynaf o dri mab John a Rebecca Griffith. Fe'i ganwyd yn Llanbedr, Harlech, cyn symud i Gwm Bifor, Gwmystradllyn. Pan foddwyd y tŷ hwnnw wrth ymestyn Ystradllyn aeth y teulu i Benllechog, Llanaelhaearn ac yna i Blas Gwyn, Y Ffôr. Bu Ceiri Griffith yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, cyn graddio[2] a gwneud doethuriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (BSc 1946; PhD 1950). Roedd ei brosiect ymchwil (dan oruchwyliaeth George Evans) yn ddilyniant i waith Evan J. Williams[3] (Dessin, y bu farw mis Mai 1946)). Mae'r tri yn gyd-awduron ar bapur gyntaf Ceiri Griffiths yn y cylchgrawn Nature. Bu'n swyddog ymchwil (yn Sefydliad Ymchwil Atomig Harwell[4]) gyda Harrie Massey[5] yn Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) (1948-1950) cyn ei benodi (1950) yn ddarlithydd yn adran ffiseg y brifysgol honno, lle arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1989. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n weithgar ym mywyd Cymry Llundain gan fod yn Is Lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion am nifer o flynyddoedd ac yn Lywydd 1986-8[6].

Thomas Ceiri Griffith
Ganwyd1925 Edit this on Wikidata
Llanbedr Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mawrth 2016 Edit this on Wikidata
Chwilog Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd, achrestrydd Edit this on Wikidata
Swyddllywydd corfforaeth Edit this on Wikidata
Thomas Ceiri Griffith (1925-2016). Ffisegydd ac Achyddwr. (trwy law Gareth Griffith)

Bu'n briod tair gwaith. Gyda Myra Jones (1925-2009) ganwyd iddynt fab, y radiolegydd blaenllaw Tudor Morley Griffiths (1951-2011)[7]. Gyda Winifred June Roberts (1929-1989), un o bileri Gymdeithas Cymry Llundain a'r Cymmrodorion a'i ysgrifennyddes o1980[6], cafwyd tri o blant Gareth, Nia ac Alun[1]. Yn 1990 priododd ag Ann Eluned Owen, ac ymgartrefu ym mro ei febyd yn Chwilog[1]. Bu farw yno yn 2016[8].

Ffiseg y Positron

golygu
 
Darganfod y positron gan Carl Anderson[9] yn 1933

Yn sicr ei gyswllt â Evan J. Williams oedd cyflwyniad cyntaf Ceiri Griffiths i'r positron, sef yr wrth-ronyn (antiparticle) sy'n cyfateb i'r electron. Ond mae'n debyg mai Harrie Massey a'i perswadiodd i droi at hwn fel ei brif faes ymchwil wrth gychwyn ei yrfa yn Llundain. Yn 1968 sefydlodd Ceiri a George Heyland Labordy Ffiseg Arbrofol y Positron yn UCL[10]. Roedd yr uned yma'n dal yn weithredol pan fu farw Ceiri. Ymysg ei darganfyddiadau oedd canfod cyfrwng arafu (moderator) ar gyfer y positron[11], mesur trawstoriad ymarferol y positron[12] a hyd ei oes wrth adweithio a nwyon, megis Heliwm[13]. "Grŵp Griffith" oedd un o arweinwyr y byd ym maes ffiseg positronau egni isel.

Achyddwr

golygu
 
Campwaith achyddol T. Ceiri Griffith (2012)

Yn ôl y sôn ymweliad ag un o deulu June ei wraig, a gweld cart achau yno, oes ysbrydoliaeth Ceiri Griffith am Achyddiaeth.[1] Aeth ati ag arddeliad ymhell cyn oes y Gwefannau Achau. Yn 2003 ymddangosodd Achau rhai o deuluoedd hen siroedd Caernarfon, Meirionydd, a Threfaldwyn[14]. Bu argraffiad arall, wedi'i ymhelaethi yn 2012. Er bod ynddi ambell lithriad, mae'r gyfrol hon yn darllen angenrheidiol a gwerthfawr i bawb sydd yn hel eu hachau yn y rhan yma o Gymru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Roberts, Enid (Mehefin 2016). "T. Ceiri Griffith (1925-2016)". Barn: tud 24.
  2. "Yr Athro T. Ceiri Griffith (1925-2016). Cyn lywydd Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr". Prom (Cylchgrawn Prifysgol Aberystwyth). 2016. https://www.aber.ac.uk/document-viewer/?pdf=/en/media/departmental/daro/21527_Prom_2016-Nov-Welsh-WEB.pdf.
  3. Wynne, Rowland (2017). Evan James Williams. Ffisegydd yr Atom. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9781786830722.
  4. "Atomic Energy Research Establishment". Wikipedia (en). 11 Gorffennaf 2023. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2023.
  5. "Harrie Massey". Wikipedia (en). 13 Tachwedd 2022. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2023.
  6. 6.0 6.1 Powell, Dewi Watkin (2001). The Honourable Society of Cymmrodorion. Rhan II. The Honourable Society 1951-2001. (https://www.cymmrodorion.org/wp-content/uploads/2014/07/The-Honourable-Society-of-Cymmrodorion-a-concise-history-1751-2001.pdf): Cymdeithas y Cymmrodorion. tt. 13–24.CS1 maint: location (link)
  7. "Tudor Morley Griffith". Wikipedia (en). 8 Gorffennaf 2023. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2023.
  8. (Trwy law Gareth Griffith, Prifysgol Aberystwyth) (Ebrill 2016). "Cofio'r Arloeswr". Y Ffynon (Papur Bro Eifionydd). tud 26.
  9. "Carl David Anderson". Wikipedia (en). 2 Awst 2023. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2023.
  10. Griffith, T.C. (1994). "Early experiments with slow positrons in atomic physics.". Hyperfine Interactions 89: 3-17. https://link.springer.com/article/10.1007/BF02064492.
  11. T.C Griffith a G.R Heyland (1978). "Experimental aspects of the study of the interaction of low-energy positrons with gases". Physics Reports 39 (3): 169-277. https://www.sciencedirect.com/science/article/abs/pii/0370157378901278.
  12. K F Canter, P G Coleman, T C Griffith a G R Heyland (1972). "Measurement of total cross sections for low energy positron-helium collisions. (Positron backscattering from metal surface)". Journal of Physics B: Atomic and Molecular Physics 5: L167. https://iopscience.iop.org/article/10.1088/0022-3700/5/8/007/meta.
  13. P G Coleman, T C Griffith, G R Heyland a T L Killeen (1975). "Positron lifetime spectra for the noble gases". Journal of Physics B: Atomic and Molecular Physics 8 (10): 1734. https://iopscience.iop.org/article/10.1088/0022-3700/8/10/021.
  14. Griffith, T. Ceiri (2012). Achau rhai o deuluoedd hen siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Threfaldwyn. Y Lolfa. ISBN 9781847714930.