Y Ffôr

pentref yng Nghymru

Pentref ger Pwllheli yng Ngwynedd ydy Y Ffôr ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Lleolir ar groesffordd ffyrdd B4354 rhwng Chwilog a Rhos-fawr a'r A499 rhwng Pwllheli a Chaernarfon. Mae'n rhan o gymuned Llannor.

Y Ffôr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlannor Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.925°N 4.386°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH397390 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Y Ffôr

Mae'r Afon Erch yn llifo tua chwarter milltir i'r dwyrain o ganol y pentref. Mae'r rhan fwyaf o bobl yno yn siarad Cymraeg. Ceir ysgol gynradd Ysgol Bro Plenydd yn y pentref. Mae yna ysgol i blant gyda anghenion arbennig yno hefyd, Ysgol Hafod Lon.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato