Thomas Evans (Telynog)
Bardd o Gymro oedd Thomas Evans (8 Medi 1840 – 29 Ebrill 1865)[1], a fu'n adnabyddus i'w gyfoeswyr wrth ei enw barddol Telynog.
Thomas Evans | |
---|---|
Ffugenw | Telynog |
Ganwyd | 8 Medi 1840, 1840 Aberteifi |
Bu farw | 29 Ebrill 1865, 1865 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Thomas Evans yn fab i Thomas ac Elisabeth Evans yn Aberteifi, Ceredigion, ar 8 Medi 1840. Saer llongau oedd ei dad ac roedd ganddo bedwar o frodyr. Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd, ond roedd yn blentyn athrylithgar. Yn 11 oed cafodd ei osod i weithio fel gwas ar fwrdd llong a hwyliai rhwng Aberteifi a phorthladdoedd bychain eraill yn ne Cymru.[1]
Ffarweliodd a'r llong yn ddirgel ar ymweliad â Hwlffordd a gwnaeth ei ffordd i Aberdâr, gan werthu ei ddillad ar y ffordd i brynu bwyd. Cafodd waith yn y pwll glo yng Nghwmbach, ger Aberdâr.[2] Dechreuodd lenydda a chymryd rhan yn y cymdeithasau lleol a gwaith y capeli, ac mewn eisteddfod a gynhaliwyd yng nghapel y Bedyddwyr yng Nghwmbach yr enillodd ei wobr gyntaf, a hynny am bryddest ar 'Gostyngeiddrwydd'.[2] Er gwaethaf ei anfanteision a chaledi ei fywyd daeth yn adnabyddus fel llenor ifanc dawnus a allai gyfansoddi yn y mesurau rhydd a chaeth. Un o'i gydnabod oedd y bardd Dafydd Morganwg, awdur Yr Ysgol Farddol boblogaidd.[1]
Ond syrthiodd yn sâl, effaith iselder meddwl a'r gwaith caled, mae'n debyg. Enillodd y wobr yn Eisteddfod Merthyr Tudful yn Nadolig 1864 am ei bryddest, ond bu farw rhai wythnosau'n ddiweddarach, ar ôl dychwelyd i Aberdâr. Pedwar ar ugain oed yn unig oedd ef pan fu farw a mawr fu'r galar ar ei ôl.[1]
Gwaith llenyddol
golyguMae ei farddoniaeth yn enghraifft dda o ganu telynegol y cyfnod, ac mae'r bardd yn defnyddio prioddulliau llafar yn ei ddarnau ysgafn, megis ei ddychan i Sais a honnai fod Aberteifi ar fin disgyn i'r môr, fel Cantre'r Gwaelod gynt. Cyhoeddwyd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Barddoniaeth Telynog, gan ei gyfeillion yn 1866. Daeth yn gyfrol boblogaidd. Mae'n cynnwys ei awdlau, cywyddau, ac englynion, ar destunau fel caethwasiaeth yn America, ymdrechion Gwlad Pwyl i ennill ei hannibyniaeth, cyfarchion i Garibaldi, a dychan am Dic Sion Dafydd.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Barddoniaeth Telynog (argraffiad 1af, 1866; ail argraffiad, 1870; 3ydd argraffiad, Cwmafon, 1886).