Thomas Howell Williams Idris
Roedd Thomas Howell Williams Idris (5 Awst 1842 – 10 Chwefror 1925), (Howell Idris) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn wneuthurwr nwyddau fferyllol.
Thomas Howell Williams Idris | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1842 Burton |
Bu farw | 10 Chwefror 1925 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, fferyllydd |
Swydd | Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, member of London County Council |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Cefndir
golyguGanwyd Idris yn Burton, Sir Benfro, yn ail fab i Benjamin Williams, Labrwr yn y dociau a Mary ei wraig[1]. Mabwysiadodd y cyfenw ychwanegol o Idris trwy weithred newid enw ym 1893.
Ym 1873 priododd Emeline, merch John Trevena, Doc Penfro a bu iddynt pum mab ac un ferch.
Gyrfa
golyguYn deuddeng oed aeth i weithio fel prentis i ddilledydd, ond doedd o ddim yn hapus yn y gwaith; roedd ganddo gefnder yn gweithio fel fferyllydd yng Nglyn Ebwy ymadawodd a'r dilledydd a mynd yn brentis fferyllydd. Aeth o Lyn Ebwy i weithio i gefnder arall iddo yng Nghrucywel lle yr arhosodd hyd ei ben-blwydd yn 21. Symudodd i Lundain i weithio i gwmni fferyllol Herrings & Co.[2] Ym 1871 dechreuodd gweithio ar ei liwt ei hun yn gynnyrch nwyddau fferyllol, ym 1874 cychwynnodd cwmni dŵr mwynol o'r enw Idris[3]; mae un o gynhyrchion y cwmni Idris' Ginger Beer yn dal i gael ei werthu ond yn cael ei gynhyrchu gan gwmni Britvic bellach; enwyd y ddiod ar ôl Cader Idris, lle'r oedd gan Howell tŷ haf a labordy.
Roedd yn credu dylai pob cwmni sicrhau bob y gweithwyr yn cael budd o lwyddiannau'r cwmnïau yr oeddynt yn gweithio iddynt, gan hynny roedd ei gwmnïau ymysg y cyntaf i ddechrau cynllun rhannu elw, lle fu'r gweithwyr yn cael rhan o elw'r cwmni ar ben eu cyflogau.[4]
Gwasanaethodd fel Llywydd Cynhadledd Fferyllol Prydain ym 1903-1904 bu hefyd yn Llywydd Cymdeithas y Fferyllwyr Cyhoeddus; Cymrawd o'r Gymdeithas Gemegol ac yn Aelod o Gymdeithas y Diwydiant Cemegol.
Gyrfa wleidyddol
golyguCafodd ei ethol fel cynghorydd ward Gogledd St Pancras ar Gyngor Sir Llundain yn yr etholiadau cyntaf i'r cyngor ym1889. Gwasanaethodd fel Cadeirydd y Pwyllgor Dŵr, a charthffosiaeth a'r Pwyllgor Afonydd, defnyddiodd ei wybodaeth o wyddoniaeth i wella ansawdd dŵr y ddinas. Safodd i lawr o'r cyngor ym 1898 er mwyn ei iechyd ac aeth am daith i Dde'r Affrig. Ar ôl ddychwelyd ail ymunodd a'r Cyngor fel aelod dros ward Gorllewin St Pancras gan wasanaethu hyd 1907.[5]
Bu hefyd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref St Pancras gan wasanaethu fel maer y fwrdeistref ym 1903 - 1904. Gwasanaethodd, hefyd, fel aelod o Fwrdd Dŵr Llundain a Bwrdd Gwarchodaeth Tafwys a Lea.
Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych yn etholiad Cyffredinol 1892, gan golli o drwch y blewyn i'r ymgeisydd Ceidwadol. Safodd yn etholaeth Caer yn etholiad 1900, eto'n aflwyddiannus. Safodd fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Fflint yn etholiad 1906 gan ennill y sedd.
Roedd ar yr ochor genedlaetholgar, anghydffurfiol, o'r Blaid Ryddfrydol ac yn gefnogol i achosion megis datgysylltu'r eglwys.
Ym 1908 chwaraeodd rhan anfwriadol yn yr achos dros ennill pleidleisiau i ferched. Roedd y Swffragetiaid wedi bwriadau tarddu ar waith y Senedd, ond llwyddodd yr Heddlu i rwystro’r brotest; fe welodd Howell Idris Mrs Frazer Simon, ysgrifenyddes Keir Hardy, ymysg y merched, a gan dybio ei bod hi wedi cael ei dal yn anfwriadol yng nghanol y ffrwgwd rhoddodd eirda drosti fel un oedd a busnes swyddogol yn y Tŷ a chafodd hi fynediad - aeth hi i mewn i'r Siambr a gweddi sloganau dros hawliau merched, gan lwyddo i darddu ar fusnes y Tŷ.[6]
Ym mis Ebrill 1906 cafodd Howell Idris ei anafu'n ddifrifol mewn damwain car ger Llanelwy a achosodd cryn niwed iddo[7], o ganlyniad i'r damwain nid oedd yn teimlo bod ei iechyd yn ddigon da i barhau fel AS ac fe ymneilltuodd o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol cyntaf 1910.[8]
Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ym Meirionnydd a Llundain. Daeth yn Llywydd cyntaf Cyngor Cymdeithas y City Gardens. Bu'n Uchel Siryf Sir Feirionnydd ym 1912. Cafodd ei greu yn Rhyddfreiniwr Dinas Llundain.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr Archif Genedlaethol -Cyfrifiad 1851, Burton Sir Benfro HO107/2476; Ffolio: 721; Tud: 2
- ↑ "THE FLINT BOROUGHS - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1903-10-31. Cyrchwyd 2015-08-19.
- ↑ "MR HOWELL IDRIS - Y Dydd". William Hughes. 1900-09-21. Cyrchwyd 2015-08-19.
- ↑ "Mr Howell Idris on Bad Times in the Mineral Water Trade - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1904-04-23. Cyrchwyd 2015-08-19.
- ↑ "DYCHWELIAD MR HOWELL IDRIS I'RCYNGHOR SIROL - Y Dydd". William Hughes. 1902-09-05. Cyrchwyd 2015-08-19.
- ↑ "Wele yma - Wele accw - Y Brython Cymreig". The Welsh Press Company Limited. 1908-10-22. Cyrchwyd 2015-08-19.
- ↑ "Mr Howell Idris MP Injured - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1906-04-21. Cyrchwyd 2015-08-19.
- ↑ "Mr Howell Idris to Retire - Prestatyn Weekly". J. T. Burrows, 1905-1969. 1907-06-15. Cyrchwyd 2015-08-19.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Herbert Lewis |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint 1906 – 1910 |
Olynydd: James Wooley Summers |
Teitlau Anrhydeddus | ||
Rhagflaenydd: Lewis Owen Williams |
Uchel Siryf Meirionnydd 1912 |
Olynydd: John Jones |