Thomas Russell
Roedd Thomas Paliser Russell (21 Tachwedd 1767 – 21 Hydref 1803) yn un o sylfaenwyr, a threfnydd blaenllaw, Cymdeithas y Gwyddelod Unedig a nodweddir gan argyhoeddiadau radicalaidd a democrataidd. Yr oedd yn aelod o bwyllgor gwaith y gogledd, yn Belfast, ac yn ffigwr allweddol yn hyrwyddo cynghrair gweriniaethol â'r Amddiffynwyr amaethyddol Pabyddol. Ceisiodd yn ofer gael cefnogaeth o blith cyn-filwyr y Gwyddelod Unedig a'r Amddiffynwyr yn y gogledd.
Thomas Russell | |
---|---|
Ganwyd | 21 Tachwedd 1767 Dromahane |
Bu farw | 21 Hydref 1803 |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Galwedigaeth | chwyldroadwr |
Fe gafodd ei arestio cyn gwrthryfeloedd 1798 a bu yn y ddalfa nes y cafodd ei ddienyddio yn gan Unoliaethwyr Lloegr yn Hydref 1803, yn dilyn gwrthryfel Robert Emmet yn Nulyn.
Cefndir
golyguGaned Russell yn Dromahane, Swydd Corc i deulu Protestanaidd (mudiad yr Oruchafiaeth, neu'r Ascendancy) a symudodd y teulu'n gynnar yn y 1770au, i Ddulyn pan benodwyd ei dad, a oedd yn gyn-filwr yn Rhyfel Annibyniaeth America,[1] yn Gapten yr Invalids yn Ysbyty Brenhinol Kilmainham.
Yn bymtheg oed, hwyliodd gyda chatrawd ei frawd i'r India ac yng Ngorffennaf 1783 fe'i comisiynwyd yn fanerwr mewn catrawd o wŷr traed a bu'n brwydro yn Ail Ryfel Eingl-Mysore. Yn Kannur cafodd gryn glod am gario'i brif swyddog clwyfus o faes y gad.[2] Daeth yn "adnabyddus iawn" i Syr John Burgoyne ac Arglwydd Cornwallis. Roedd, fodd bynnag, wedi ei ffieiddio gan yr hyn a ystyriai fel "ymddygiad anghyfiawn a ffyrnig yr awdurdodau yn achos dwy fenyw frodorol", a dychwelodd yn anniddig i Iwerddon ym 1786.[3] Ar ôl astudio am gyfnod byr ar gyfer y weinidogaeth eglwysig, treuliodd y pedair blynedd nesaf fel swyddog ar hanner cyflog yn Nulyn yn dilyn astudiaethau gwyddonol, athronyddol a gwleidyddol.
Yng Ngorffennaf 1790 yn oriel yr ymwelwyr yn Nhŷ'r Cyffredin Iwerddon, cyfarfu â Theobald Wolfe Tone. Roedd Tone hyd yn oed yn fwy beirniadol nag ef o'r trafodion yn y siambr oddi isod, lle nad oedd yr arweinydd gwladgarwr Henry Grattan yn gallu manteisio ar ei fuddugoliaeth yn sicrhau annibyniaeth deddfwriaethol Iwerddon oddi wrth Lloegr ("Chwyldro 1782") i wneud diwygiadau ystyrlon. Ysgrifennodd Tone ei Hunangofiant chwe blynedd yn ddiweddarach[4] ym Mharis, a disgrifiod y cyfarfod gyda Russell fel "un o'r rhai mwyaf ffodus yn fy mywyd".
Russell yn Belfast
golyguDdiwedd Awst 1790, apwyntiwyd Russell yn swyddog i'r 64ydd Catrawd Traed a leolwyd yn Belfast. Fel swyddog y garsiwn, derbyniwyd Russell i gymdeithas dosbarth-broffesiynol a busnes newydd y dref a oedd yn Bresbyteraidd i raddau helaeth; roedd y dosbarth hwn yn ddig tuag at freintiau'r Uwch Anglicaniaid gan gydymdeimlo â delfrydau democrataidd y chwyldro Americanaidd a'r Chwyldro Ffrengig.
Gyda'i feddwl craff a'i dueddiadau radicalaidd, daeth Russell yn gyfaill yng nghyfrinach William Drennan, Samuel McTier, Samuel Neilson ac yn ddiweddarach Henry Joy McCracken, James Hope, ac eraill a oedd i chwarae rhan flaenllaw yng Nghymdeithas y Gwyddelod Unedig.
Dywedir bod Russell yn edmygu ac yn parchu dynion a merched fel ei gilydd. Cymerodd chwaer Drennan, Martha McTier a chwaer McCracken, Mary Ann McCracken, ef yn gyfaill mewn ffydd. Rhannodd Mary Ann syniadau rhyddfreiniol benywaidd Mary Wollstonecraft gydag ef.[3][5] Roedd Martha McTier wedi annerch cyfarfodydd merched radicalaidd eraill gan ddatgan: “Rwy’n edmygu’r dyn hwn Russell) yn fawr a phe bai gen i'r grym, credaf mai ef fyddai’r dyn cyntaf y byddwn yn ei wasanaethu”.[2]
Yn Hydref 1791, ac ym mhresenoldeb Tone, gwahoddwyd Russell i Belfast fel cefnogwr undeb gwleidyddol â Chatholigion difreiniedig (disenfranchised) a mynychodd Russell gyfarfod cyntaf Cymdeithas y Gwyddelod Unedig. Adroddodd Tone ei Ddadl ar ran Pabyddion Iwerddon,[6] a chyflwynodd Russell hanes y Pwyllgor Catholig yn Nulyn a'i drafodaethau ei hun gyda'r Catholigion blaenllaw.[7] Roedd y penderfyniadau, yr oedd Tone wedi gofyn i Russell eu hysgrifennu, yn galw am ddileu’r holl elfennau sacramentaidd sy’n weddill ac am “gynrychiolaeth gyfartal o’r holl bobl” yn Senedd Dulyn.[8]
Ymhen rhai misoedd, ac i osgoi dyled, derbyniodd Russell gynnig Is-iarll Northland, Tyrone, tad hen gyfaill o'r fyddin, i fynd yn ddistain (math o ynad cyflogedig) i lys maenor Northlands yn Dungannon. Ond cafodd Russell ei arswydo gan wrth-Babyddiaeth ei gyd-ynadon ac o bosibl hefyd y teulu Northland, ac ymddiswyddodd yn Hydref 1792. Cyfrannodd ei brofiad yn Dungannon yn sylweddol at ei radicaliaeth ac ni wasanaethodd wedi hynny mewn unrhyw swydd swyddogol na cheisio nawdd ei gyfeillion aristocrataidd.[2]
Yn 1793 gyda chymorth Drennan, cymerodd Russell swydd a oedd yn nes at galonnau ei gyfeillion: llyfrgellydd yn y Belfast Society for Promoting Knowledge. Fel ysgrifennydd, sicrhaodd Russell fod trawsgrifiadau gan ei ffrind Edward Bunting o'r alawon a chwaraewyd yn cael eu cyhoeddi.[9] Ym 1794, mynychodd Russell ddosbarthiadau Gwyddeleg dan ofal Pádraig Ó Loingsigh (Patrick Lynch) yn Academi Belfast.[7]
Y Chwyldroadwr Gwyddelig Unedig
golyguAchosodd mynediad Llywodraeth Prydain i Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc ar ddechrau 1793 a'r gorthrwm domestig cynyddol a ddilynodd, i'r Gwyddelod Unedig anobeithio am unrhyw ddiwygio cymdeithasol. Ar yr un pryd, roedd y posibilrwydd o ymyrraeth a chymorth gan Ffrainc yn ysgogi syniadau gwrthryfelgar. Erbyn canol 1793 roedd Russell yn cydymdeimlo â'r gwladgarwyr seneddol sef y Chwigiaid Gwyddelig. Mewn llythyr at bapur Gwyddelig Unedig Belfast, y Northern Star, fe wadodd fod gwrthwynebiad seneddol Henry Grattan yn “ddi-nod” a’i gyhuddo o “ddatgan, a gwenu, a sgwrsio am gamdriniaethau’r weinidogaeth honno, na fyddai’n bodoli bellach oni bai amdano ef."[2]
Ym Mehefin 1795, fel aelod o Bwyllgor y Gogledd o'r Gymdeithas, cyfarfu Russell â McCracken, Neilson, Robert Simms ac ar y ffordd i alltudiaeth yn yr Unol Daleithiau, cyfarfu Russell â Tone. Yng nghaer McArt ar ben Cave Hill yn edrych dros Belfast fe dyngon nhw'r llw enwog “ni wnawn ni byth ymatal yn ein hymdrechion hyd nes i ni wyrdroi awdurdod Lloegr dros ein gwlad, a chadarnhau ein hannibyniaeth’”.[10]
Teithiodd Russell yn eang ledled Ulster, gan recriwtio a threfnu ar gyfer y Gwyddelod Unedig. Ym Medi 1795 adroddwyd fod "Capt. Russell o Belfast wedi ei benodi'n arlywydd holl gymdeithasau talaith Ulster"; tra yn ddiweddarach, dywedodd un o asiantau mwyaf dibynadwy'r llywodraeth wrth y Castell fod y Gwyddelod Unedig yn barod i godi a bod "Russell ... nawr yn arweinydd". Sonir am ei rôl fel recriwtiwr y Gwyddelod Unedig yn y faled adnabyddus "The man from God-knows-where".[2]
Yn Hydref 1793 sefydlodd gangen o'r Gymdeithas yn Enniskillen gyda William Henry Hamilton. Erbyn Ionawr 1794, roedd Hamilton wedi priodi nith Russell, sef Mary Ann Russell (c. 1775– c. 1840), yr oedd ganddi hithau safbwyntiau gwleidyddol radical, cryf ac arhosodd yn gyfaill mynwesol iddi am oes.[11]
Ym 1796, cyhoeddodd Russell Lythyr at Bobl Iwerddon ar Gyflwr Presennol y Wlad [12]. Cynhyrfodd yr Uchelwyr Seisnig gan fynnu ei bod wedi llesteirio cynnydd tuag at ddiwygio yn y 1780au, oherwydd eu llygredd moesol, a'u hanallu i lywodraethu. Mynnodd fod gan bob dyn nid yn unig yr hawl ond y ddyletswydd, i ymwneud â llywodraeth a gwleidyddiaeth. Dim ond os yw deddfwriaeth yn ceisio gwasanaethu "teulu'r ddynoliaeth gyfan", yn hytrach na lleiafrifoedd hunanol yn unig, y gall fod rhywfaint o obaith y bydd yn adlewyrchu'r cyfiawnder naturiol a ordeiniwyd gan Dduw.[2]
Beirniadodd greulondeb diwydiant y melinoedd a'r tlodi a achoswyd gan ddifaterwch yr uchelwyr a'r llywodraeth.[12] Fel ynad yn Dungannon roedd Russell wedi cymryd ochr gwehyddion lliain lleol yn eu hanghydfod gyda'u cyflogwyr. Edrychodd Russell ar fasnachwyr gyda sêl ei fendith. Bu mewn gwrthdaro â Samuel Nielson yn y Northern Star,[13] ac argymhellodd greu undebau llafur nid yn unig i fasnachwyr ond hefyd i lafurwyr a chotwyr.[2]
Carcharor
golyguGyda'i ffrind agos Henry Joy McCracken, roedd Russell yn ffigwr allweddol wrth ffurfio'r gynghrair rhwng y Gwyddelod Unedig gogleddol a'r corff mwyaf oedd yn bod, o "ddynion heb eiddo", sef yr Amddiffynwyr. Mewn ymateb i gyrchoedd Peep O'Day ar gartrefi Catholig yng nghanol y 1780au, erbyn dechrau'r 1790au roedd yr Amddiffynwyr yn frawdoliaeth gyfrinachol o aelodau a oedd yn rhwym i lw o Ulster i ganolbarth Iwerddon.[14]
Roedd gweithgareddau o'r fath yn dychryn yr awdurdodau Seisnig yn gynyddol ac ar 16 Medi 1796 daeth llu milwrol mawr i Belffast, selio'r dref, ac arestio nifer o ddynion blaenllaw Unedig, gan gynnwys Russell. Daliwyd Russell, yn ddigyhuddiad, yng Ngharchar Newgate tan diwedd Haf 1798. Roedd yn llawer mwy amharod na'r rhan fwyaf o'i gydweithwyr i ddod i delerau â Llywodraeth Lloegr, gan geisio o'r carchar i ysgogi rhagor o wrthwynebiad arfog. Ym Mawrth 1799 carcharwyd ef am dair blynedd arall, gyda charcharorion Gwyddelig eraill, yn Fort George yn yr Alban.
Mae ei lythyrau’n datgelu iddo ddod o hyd i fwy a mwy o synnwyr a chysur mewn proffwydoliaeth feiblaidd wrth iddo fagu ar gyflwr y byd. Ymddengys fod effaith gyfunol parhad y rhyfel yn Ewrop, ei ledaeniad i'r Dwyrain Canol, a haf gwaedlyd 1798 yn Iwerddon wedi dwysáu ei gred bod y byd ar y pryd mewn cyfnod cythryblus a ragwelwyd gan Sant Ioan. Ei ddyletswydd oedd paratoi'r ffordd trwy godi ei law yn erbyn y frenhiniaeth Brydeinig rhyfelgar.[2]
Ar ddiwedd Mehefin 1802, yn ystod yr hyn a ragwelai a fyddai'n "gadoediad gwag" yn y rhyfel yn erbyn Ffrainc, rhyddhawyd Russell ar yr amod ei fod yn troi'n alltud i Hamburg. Wrth ysgrifennu ar drothwy ei ymadawiad ac ym mhumed flwyddyn ei garchariad, mynegodd Russell hyder bod y frwydr dros ryddid yn Iwerddon ar fin ailddechrau "gydag egni ffres".[15]
Gwrthryfel 1803
golyguDoedd gan Russell fawr o awydd garcharu ei hun yn Hamburg, ac felly aeth ar unwaith i Baris lle cyfarfu â Robert Emmet a oedd, gyda McCabe yn bwrw mlaen â'r cynlluniau ar gyfer gwrthryfel gyda Ffrainc yn erbyn Lloegr. Ychydig o hyder oedd gan Russell, fel Emmet, yn y Ffrancwyr.[16] Ni dderbyniodd "drosglwyddiad Napoleon fel parhad o'r Weriniaeth", a gwrthododd gymryd comisiwn Ffrengig.[15] Gyda'r gobaith o gael cymorth gan Ffrainc, cytunodd serch hynny i ddychwelyd i Iwerddon ym Mawrth 1803 i drefnu'r Gogledd ar y cyd â chyn-filwr Brwydr Antrim, James Hope[16] a William Henry Hamilton.[11] Canfu Russell fod y gogledd wedi'i ddarostwng gan y gyfundrefn Seisnig, yn dilyn chwalu gwrthryfel 1798 a heb fawr o awydd am ymgais newydd.[17]
Wedi'i geryddu gan weddill y Gwyddelod Unedig yng ngogledd Down, ceisiodd Russell annog gwrthryfel yng ngwlad yr Amddiffynwyr.[18] Ar fore 22 Gorffennaf 1803, anerchodd grwpiau bychain o ddynion yn Annadorn a Loughinisland. Dywedodd wrthynt fod gwrthryfel cyffredinol i fod ledled Iwerddon ac y byddai ergydion yn cael eu taro ar yr un pryd yn Nulyn, Belfast a Downpatrick. Ymbiliodd arnynt i ymuno ag ef ond yn ofer. Dywedodd un dyn y byddent yn cael eu crogi fel cŵn.[17]
Heb yn wybod i Russell, yn Nulyn ni allai Emmet, ddanfon y drylliau a addawyd, dynnu gwŷr Michael Dwyer i lawr o Fynyddoedd Wicklow[19] na rhoi'r gefnogaeth y gobeithir amdani yn Kildare. Methodd y cynlluniau i gymeryd Castell Dulyn pan ganfu bod llawer o'r rhai oedd dan ei reolaeth uniongyrchol yn feddw, a daeth a'r gwrthryfel hwnnw i ben. [20]
Dienyddio
golyguLlwyddodd Russell i guddio am nifer o wythnosau ond ar 9 Medi 1803 cafodd ei arestio gan yr Uwchgapten Sirr yn Nulyn lle dychwelodd yn y gobaith o achub Emmet (a oedd wedi ei ddal ar 25 Awst). Anfonodd Mary Ann £100 at Thomas Russell drwy Orr, a oedd i’w ddefnyddio fel llwgrwobr “er mwyn achosi ei ddihangfa.”[21] Ond yn ddirybudd ar fore'r 12fed fe'i trosglwyddwyd i Garchar Downpatrick.
Yno, ar 3 Hydref, adroddodd y Parch. F. Archer, arolygydd carchardai, ei fod am "weinyddu'r Sacrament" i Russell. Pan ddaeth y gwasanaeth i ben, datganodd Russell “ym mhresenoldeb ofnadwy Duw” ei fod wedi bod yn euog o “lawer o weithredoedd anfoesol”, ond o ran ei farn a’i weithredoedd gwleidyddol, nid oedd erioed wedi bwriadu “dim heblaw mantais fy nghyd-greaduriaid a hyd yn oed hapusrwydd fy ngwrthwynebwyr" a pha un a oedd "edau" ei fodolaeth yn ymestyn 40 mlynedd pellach neu yn cael ei dorri o fewn yr awr, na ddylai beidio â'r gwaith a ddechreuwyd ganddo.[22]
Cafwyd ef yn euog o uchel frad yn Downpatrick, ar 12 Hydref a chrogwyd Russell a thorrwyd ei ben o'i gorff. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Margaret, Downpatrick, bedd y talwyd amdano gan ei ffrind Mary Ann McCracken.
Ysgrifau dethol
golygu- Llythyr at Bobl yr Iwerddon, ar sefyllfa bresenol y wlad . Belfast: Swyddfa Northern Star, 1796
- Cylchgronau a Chofiannau Thomas Russell, [23] 1791-5, Dulyn: Irish Academic Press, 1991,ISBN 0716524821
Gyda William Sampson :
- Adolygiad o'r Llew o Hen Loegr; neu Democratiaeth Confounded , Belfast: 1794.
- Adroddiad ffyddlon o achos llys Hurdy-Gurdy, a brofwyd ac a gafwyd yn euog o enllib erchyll yn llys Mainc y Brenin . . . , , (cyfreswyd yn wreiddiol yn y Northern Star ), Dulyn: Bernard Dornin, 1806
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Castlereagh, Robert Stewart, Viscount, Robert (1850). Memoirs and correspondence of Viscount Castlereagh, second marquess of Londonderry (yn English). London, H. Colburn. t. 265.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 Quinn, James (Spring 2002). "Thomas Russell, United Irishman". 18th-19th Century Social Perspectives 10 (1). https://www.historyireland.com/18th-19th-century-history/thomas-russell-united-irishman/. Adalwyd 30 October 2020.
- ↑ 3.0 3.1 Madden, Richard Robert (1846). The United Irishmen, Their Lives and Times. Volume 1 (yn Saesneg). Dublin: J. Madden & Company. tt. 145–146.
- ↑ Joy, Henry (1817). Historical Collections Relating to the Town of Belfast. Belfast: G. Berwick. t. 34.
- ↑ McNeill, Mary (1960). The Life and Times of Mary Ann McCracken, 1770–1866. Dublin: Allen Figgis & Co.
- ↑ Theobald Wolfe Tone (1791). An Argument on behalf of the Catholics of Ireland. Belfast: H. Joy & Co.
- ↑ 7.0 7.1 Quinn, James (2002). Soul on Fire: a Life of Thomas Russell. Dublin: Irish Academic Press. ISBN 9780716527329.
- ↑ Altholz, Josef L. (2000). Selected Documents in Irish History. New York: M E Sharpe. t. 70. ISBN 0415127769.
- ↑ "Edward Bunting, A General Collection of the Ancient Music of Ireland (1796)". www.wirestrungharp.com. Cyrchwyd 2022-10-11.
- ↑ William Theobald Wolfe Tone, gol. (1826). Life of Theobald Wolfe Tone, vol. 1. Washington D.C.: Gales and Seaton. t. 127.
- ↑ 11.0 11.1 Quinn, James (2009). "Hamilton, William Henry | Dictionary of Irish Biography". www.dib.ie. Cyrchwyd 2022-02-12.
- ↑ 12.0 12.1 Russell, Thomas (1776). A Letter to the People of Ireland, on the present situation of the country (yn Saesneg). Belfast: Northern Star Office.
- ↑ Gray, John (1998). The San Culottes of Belfast: The United Irishmen and the Men of No Property. Belfast: Belfast Trades Union Council and the United Irishmen Commemorative Society. tt. 13–18.
- ↑ Curtin, Nancy (1985). "The Transformation of the Society of United Irishmen into a mass-based revolutionary organisation, 1794-6". Irish Historical Studies xxiv (96).
- ↑ 15.0 15.1 Clifford, Brendan (1988). Thomas Russell and Belfast. Belfast: Athol Books. ISBN 0-85034-0330.
- ↑ 16.0 16.1 Madden, Richard Robert (1846). The United Irishmen, Their Lives and Times. Volume 1 (yn Saesneg). J. Madden & Company. tt. 211–213.
- ↑ 17.0 17.1 Quinn, James (2013). ""The dog that didn't bark": the North and 1803". History Ireland. Cyrchwyd 2021-03-07.
- ↑ Commentary by Kenneth Robinson in: Birch, Thomas Ledlie (2005). A Letter from an Irish Emigrant (1799) (arg. Originally published in Philadelphia). Belfast: Athol Books. ISBN 0850341108. p. 114
- ↑ "Robert Emmet". Ricorso. 2010. Cyrchwyd 6 October 2010.
- ↑ Bardon, Jonathan (2008). A History of Ireland in 250 Episodes. Dublin: Gill & Macmillan. tt. 334–336. ISBN 9780717146499.
- ↑ McWilliams, Cathryn Bronwyn (2021). The Letters and Legacy of Mary Ann McCracken (1770-1866) (PDF). Åbo, Finland: Åbo Akademi University Press. ISBN 9789517659949.
- ↑ Irish Public Records Office 620-50 21, quoted in Charles Dickson (1997), Revolt in the North, Antrim and Down in 1798, London, Constable, ISBN 0094772606
- ↑ Dickson, David (1992). "Review of Journals & Memoirs of Thomas Russell 1791-5". Studies: An Irish Quarterly Review 81 (324): 460–463. ISSN 0039-3495. JSTOR 30091740. https://www.jstor.org/stable/30091740.