Thomas Vaughan

bardd, athronydd (1621-1666)

Athronydd a bardd Cymreig oedd Thomas Vaughan (17 Ebrill 162127 Chwefror 1666). Roedd yn frawd gefaill i'r bardd Henry Vaughan (1621–1695).

Thomas Vaughan
FfugenwEugenius Philalethes, Philalethes Eugenius, Cyraneus Philalethes Edit this on Wikidata
Ganwyd17 Ebrill 1621 Edit this on Wikidata
Sir Frycheiniog Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 1666 Edit this on Wikidata
o gwenwyniad Edit this on Wikidata
Albury Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathronydd, bardd, alchemydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Thomas Vaughan yn nhreflan fechan Trenewydd ym mhentref Sgethrog, Brycheiniog. Aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, yn 1638 gyda'i frawd Henry, gan aros yno am ddegawd dros gyfnod Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Pleidiodd achos y Brenhinwyr yn y rhyfeloedd hynny a chymerodd ran, gyda'i frawd mewn ysgarmes yng Nghastell Beeston dan y Cyrnol Herbert Pryce.

Fe'i gwnaed yn offeiriad Eglwys y Santes Ffraid yn Llansantffraed, Sir Frycheiniog, gan astudio meddygaeth yr un pryd. Roedd yn synnu'n fawr nad oedd llawer o feddygon yng Nghymru. Fe'i taflwyd o'r plwyf yn 1650 dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru oherwydd ei gydymdeimlad â'r Brenin. Priododd Rebecca yn 1651 a symudodd y ddau i fyw yn Llundain ond bu hi farw yn 1658.

Bu farw yn 1666. Cafodd ei gladdu yn Llansantffraid-ym-Mechain.

Gwaith llenyddol golygu

Sgwennodd sawl llyfr, yn cynnwys Anthroposophia ynglŷn â chyfriniaeth yr alcemydd. Mae'n fwy na thebyg iddo sgwennu wrth y ffug enw "Eugenius Philalethes", hefyd. Mae'n awdur sawl cerdd yn y Lladin a'r Saesneg.

Cyfeiriadau golygu