Sgethrog

pentrefan ym Mhowys

Pentref bychan yng nghymuned Tal-y-bont ar Wysg, Powys, Cymru, yw Sgethrog[1] (Saesneg: Scethrog).[2] Saif yn ardal Brycheiniog, yn ne'r sir, lan ffordd yr A40 tua 5 milltir i'r de-ddwyrain o Aberhonddu, mewn cwm mynyddig rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain. Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Llansantffraed i'r de, Llanhamlach i'r gogledd a Pencelli i'r gorllewin.

Sgethrog
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.918221°N 3.299799°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO106252 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Enwogion golygu

  • Henry Vaughan (1621-1695), un o feirdd metaffisegol mawr y 17g (ganed yn Nhrenewydd, Sgethrog)
  • Thomas Vaughan (1621-1666), athronydd a bardd, brawd gefaill i Henry Vaughan

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU