Agor y brif ddewislen

Llansanffraid-ym-Mechain

pentref yn nwyrain Powys
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llansantffraid-ym-Mechain)
Canol Llansanffraid-ym-Mechain

Pentref, cymuned a thref bost yn nwyrain Powys, i'r dwyrain o bentref Llanfyllin a rhyw 8 milltir i'r de-orllewin o Groesoswallt dros y ffin yn Lloegr, yw Llansanffraid-ym-Mechain (hefyd Llansantffraid-ym-Mechain). Saif ar y briffordd A495 ac yn agos i'r fan lle mae Afon Cain yn ymuno ag Afon Efyrnwy. Mae'r ffin â Lloegr o fewn rhyw 2 km i'r pentref.

Tarddiad yr enwGolygu

Daw'r enw 'Llansanffraid' oddi wrth y Santes Ffraid. Roedd Mechain yn un o gantrefi teyrnas Powys yn yr Oesoedd Canol. Ym Mai 2008, mabwysiadodd y pentref y ffurf Gymraeg hanesyddol ar enw'r pentref 'Llansanffraid-ym-Mechain' fel enw swyddogol y pentref, gan nodi bod y ffurf gyda'r llythyren "t" - 'Llansantffraid-ym-Mechain' yn ffurf Fictoraidd a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf ganol y 19eg ganrif. Bellach mae'r ffurf draddodiadol/safonol i'w gweld ar arwyddion ffordd o gwmpas y pentref.

HanesGolygu

Credir fod cnewyllyn yr eglwys yn dyddio o'r 12g, er ei bod wedi ei newid llawer ers hynny. Dadorchuddiwyd un o'i ffenestri gan William Morris Hughes, fu'n brif weinidog Awstralia rhwng 1915 a 1923; roedd ei fam yn frodor o'r ardal yma.

Plas-yn-DinasGolygu

Cofrestwryd Plas-yn-Dinas fel heneb, ac fe'i lleolir 5 km i'r gorllewin o'r hen Glawdd Offa.[1][2] Pren oedd ei wneuthuriad yn wreiddiol, mae'n debyg, ac fe'i cofnodwyd yn gyntaf yn y 14c fel cartref Arlwyddi Mechain.[3] Mae rhan o'r tir yn cynnwys olion {{Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeinig]], sef Mediolanum.[4]

ChwaraeonGolygu

Mae'r clwb pêl-droed, C.P.D. y Seintiau Newydd, yn un o'r cryfaf yn Uwchgynghrair Cymru.

Pobl a aned yn LlansanffraidGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "PLAS-YN-DINAS". Coflein.
  2. "Plas yn Dinas Castle". CPAT.
  3. "Plas yn Dinas, Llansantffraid". Gatehouse Gazetteer.
  4. "Llansantffraid Montgomeryshire". Vision of Britain.