Tiziano Vecellio
Arlunydd Eidalaidd oedd Tiziano Vecellio (Almaeneg: Tizian, Ffrangeg: Titien, Saesneg: Titian; tua 1487 – 27 Awst 1576). Ystyrir ef yn un o arlunwyr pwysicaf y Dadeni.
Tiziano Vecellio | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
c. 1490 ![]() Pieve di Cadore ![]() |
Bu farw |
26 Medi 1576, 27 Awst 1576 ![]() Achos: y pla ![]() Fenis ![]() |
Dinasyddiaeth |
Gweriniaeth Fenis ![]() |
Galwedigaeth |
arlunydd, drafftsmon ![]() |
Swydd |
arlunydd llys ![]() |
Adnabyddus am |
Merch â Drych, Coroniad Crist â Drain, Y Forwyn â'r Gwningen, Gwener Urbino, Portread o Siarl V ar Gefn Ceffyl, Pab Pawl III a'i Wyrion, Tarquinius a Lucretia ![]() |
Arddull |
portread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, nude, peintio hanesyddol, portread ![]() |
Mudiad |
ysgol Fenis, yr Uchel Ddadeni ![]() |
Tad |
Gregorio Vecellio ![]() |
Priod |
Cecilia Soldano ![]() |
Plant |
Orazio Vecellio, Tizianello, Lavinia Vecellio ![]() |
Llinach |
teulu Vecellio ![]() |
Gwobr/au |
Urdd y Sbardyn Aur ![]() |

Ganed Titian yn Pieve di Cadore, pentref yn y Dolomitau tua 190 km i'r gogledd o Fenis. Bu'n ddisgybl i Gentile Bellini ac yna i'w frawd, Giovanni. Dylanwad pwysig arall arno oedd Giorgione (tua 1477 – 1510).
Tua 1508, roedd Giorgione a Titian yn gyfrifol am waith ffresco ar y Fondaco dei Tedeschi yn Fenis. Yn 1511, arluniodd Titian waith ffresco yn y Scuola del Santo yn Padova. Yn 1516, daeth yn arlunydd swyddogol Gweriniaeth Fenis.
Yn 1532, gwnaeth yr Ymerawdwr Siarl V ef yn uchelwr. Yn y blynyddoedd 1530–40 bu'n gweithio yn Urbino. Yn 1545–46 bu yn Rhufain, ac yn 1548–1551 yn llys yr ymerawdwr yn Augsburg. Wedi marwolaeth Siarl, bu'n gweithio i Philip II, brenin Sbaen. Claddwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari, Fenis.
GweithiauGolygu
- Fenws Urbino a Flora yn yr Uffizi yn Fflorens
- Esgyniad Mair (Titian) a Madonna Pesaro yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari yn Fenis
- Portread o Clarissa Strozzi yn y Gemäldegalerie, Berlin