Tommy Godwin
Seiclwr trac Seisnig oedd Thomas "Tommy" Charles Godwin (5 Tachwedd 1920 – 3 Tachwedd 2012). Ganwyd yn Connecticut, Yr Unol Daleithiau i rieni o Loegr a dychwelodd y teulu i wledydd Prydain yn 1932[1]. Bu'n rasio yn ystod y 1940au a'r 1950au ac yn ddiweddarach daeth yn hyfforddwr, rheolwr a gweinydd yn y byd seiclo.
Tommy Godwin | |
---|---|
Ganwyd | 5 Tachwedd 1920 Connecticut |
Bu farw | 3 Tachwedd 2012 Solihull |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol, person busnes |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Enillodd Godwin dau fedal efydd yn pursuit tîm (gyda Robert Geldard, David Ricketts a Wilfrid Waters) a Kilo Gemau Olympaidd 1948 yn Llundain, a medal efydd arall yn Kilo Gemau'r Gymanwlad 1950.
Rhwng 1936 a 1950, gweithiodd Godwin yn Birmingham Small Arms Company. Am 36 mlynedd o 1950 rhedodd siop feics yn Silver Street yn ardal Kings Heath, Birmingham.[2]
Roedd Godwin yn reolwr o dîm cenedlaethol Prydain yng Ngemau Olympaidd 1964 yn Tokyo, bu'n Lywydd y British Cycling Federation a chlwb seiclo Solihull yn ddiweddarach. Rhedodd y gwersyll ymarfer cyntaf yn Mallorca a'r cwrs trac cyntaf yn Lilleshall. Sefydlodd Birmingham RCC, a bu ymysg arloeswyr cyntaf hyfforddwyr seiclo. Hyfforddodd a chynghorodd genhedlaeth o seiclwyr trac Prydain; mae nifer ohonynt wedi ennill medalau cenedlaethol a rhyngwladol.
Cyhoeddwyd ei hunanfywgraffiad It Wasn't That Easy: The Tommy Godwin Story yn 2007 gan y 'John Pinkerton Memorial Publishing Fund'.[3] Yn 91 oed fe'i ddewiswyd i gymeryd rhan yn nhaith y Ffagl Olympaidd o gwmpas y DU cyn cychwyn Gemau Olympaidd Lundain yn 2012, a fe'i gariodd ar gymal 300 metr drwy Solihull ar 1 Gorffennaf 2012. Bu farw yn Hospis Marie Curie yn Solihull ar 3 Tachwedd 2012.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan swyddogol y Gemau Olympaidd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-25. Cyrchwyd 2007-10-04.
- ↑ Hanes Tommy Godwin Cycles ar wefan 'Made in Birmingham'
- ↑ "Adolygiad o It Wasn't That Easy: The Tommy Godwin Story". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-01. Cyrchwyd 2007-10-04.