Torra di Capiteddu

Tŵr Genoa yng Nghorsica

Mae Tŵr di Capiteddu (Corseg:Torra di Capiteddu) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Grosseto-Prugna (Corse-du-Sud) ar ynys Corsica. Mae'r tŵr yn gorwedd i'r de o Ajaccio ger traeth Porticcio. Yn wahanol i dyrrau Genoa eraill ar yr arfordir gorllewinol sydd ar lwyfandiroedd neu benrhynau, adeiladwyd Tŵr di Capiteddu ar greigiau ger ceg Gravona a Prunelli. Mae'n gwahanu dau draeth Gwlff Ajaccio y Ricanto a'r Porticcio[1]

Tŵr di Capiteddu
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGrosseto-Prugna Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau41.9042°N 8.79917°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Dechreuwyd adeiladu'r tŵr ym 1552. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[2] Mae'n dwr crwn 11 metr o uchder a 42 metr mewn cylchedd ar y gwaelod[3]. Addaswyd teras to'r tŵr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond cafodd ei hail adfer ym 1998 i gael gwared â'r newidiadau a wnaed yn ystod y rhyfel. Mae'r tŵr bellach yn eiddo i'r gymuned ac fe restrwyd ym 1991 fel heneb o bwys monument historique gan lywodraeth Ffrainc.[4]

Un o nodweddion tyrau Genoa Corsica oedd bod y teras ar ben y tŵr yn cael ei amgylchynu gan ryngdyllau amddiffynnol roedd y gwarchodwyr yn gallu defnyddio i daflu pethau megis cerrig neu saim berw ar ben ymosodwyr. Mae'r rhyngdyllau i'w gweld yn amlwg ar dŵr di Capiteddu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Office de tourisme de porticcio - Les tours genoises porticcio Archifwyd 2018-07-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 31 Gorffennaf 2018
  2. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. t. 85. ISBN 2-84050-167-8.
  3. Tour de Capitello Archifwyd 2020-09-18 yn y Peiriant Wayback adallwyd 31 Gorffennaf 2018
  4. "Monuments historiques: Tour de Capitello". Ministère de la culture. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2018.

Dolenni allanol

golygu