Torra di Castellare

tŵr Geno yng Nghorsica

Mae Tŵr de Castellare (Corseg:Torra di Castellare Ffrangeg:Tour de Castellare) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Pietracorbara ar arfordir dwyreiniol ynys Corsica.

Torra di Castellare
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPietracorbara Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.83°N 9.48°E Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Adeiladwyd y tŵr rhwng 1550 a 1575 ar gais Marcu de Gentile, aelod o deulu arglwyddiaeth Gentile, ar safle amddiffynfa hynafol. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoarhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Yn nogfennau Genoese, gelwir y tŵr yn Dŵr Ampuglia sef Tŵr yr Eryr.[2]

Roedd ei safle ar bentir creigiog, 127 metr uwchben y dŵr yn caniatáu iddo ddominyddu'r môr ger Pietracorbara. Fe'i gwarchodwyd gan garrison o torregiani o bentref Pietracorbara. Dim ond rhan o'r sylfaen sgwâr sydd wedi goroesi.[3]. Mae gan y tŵr storfa wedi ei adeiladu wrth ei ymyl. Mae'r waliau yn 2.5 medr o drwch ac roedd yr adeilad yn 13.5 medr o hyd a 6.5 medr o led.[4]

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
  2. Graziani, Antoine-Marie (1992). Les Tours Littorales. Ajaccio, France: Alain Piazzola. t. 136, no. 81. ISBN 2-907161-06-7.
  3. Tour de Castellare à Pietracorbara adalwyd 2 Awst 2018
  4. Les tours génoises du Cap Corse Archifwyd 2020-04-12 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 2 Awst 2018

Dolenni allanol golygu