Mae Tŵr Fautea (Corseg:Torra di Fautea Ffrangeg: Tour de Fautea) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Zonza (Corse-du-Sud) ar arfordir dwyreiniol ynys the French island of Corsica. Mae'r tŵr yn sefyll ar uchder o 32 metr (105 troedfedd) ar y Punta di Fautea.

Torra di Fautea
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirZonza Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau41.7133°N 9.40583°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari. Fe'i hadeiladwyd cyn 1601, dyddiad sy'n ymddangos ar ddogfen sy'n cofnodi taliad a wnaed i un o'r milwyr oedd yn gyfrifol am warchod y twr. Ymosodwyd ar y tŵr a'i losgi ym 1650 gan Ymerodraeth yr Otomaniaid. Fe'i hadferwyd rhwng 1988 a 1991 ac eto rhwng 1994 a 1995.[1]

Mae'r Tŵr yn eiddo ac yn cael ei chynnal gan Collectivité Territoriale de Corse mewn cytundeb gydag asiantaeth lywodraeth Ffrainc, y Conservatoire du littoral. Mae'r asiantaeth yn bwriadu prynu 95 hectar (230 erw) o'r pentir.[2][3] Ar 27 Hydref 1992 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc.[4]

Gweler hefyd

golygu

Galeri

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Document d’objectifs du site Natura 2000 FR9400584 - Marais de Lavu Santu et littoral de Fautea - Commune de Zonza (Corse du Sud) (PDF). Conservatoire du littoral. 2007. tt. 43–47. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2018-08-03.
  2. Catalogue monuments historiques (Adroddiad). Conservatoire du Littoral, Ministère de l'écologie, du développement durable et de l'énergie, République Française. July 2011. p. 51. http://www.conservatoire-du-littoral.fr/include/viewFile.php?idtf=930&path=e7%2F930_116_Catalogue-Illustre-des-Monuments-HistoriquesB.pdf. Adalwyd 27 Ebrill 2015.
  3. "Fautea". Conservatoire du littoral, Ministère de l'écologie, du développement durable et de l'énergie. Cyrchwyd 15 Mawrth 2017.
  4. "Monuments historiques: Torra di Fautea". Ministère de la culture. Cyrchwyd 3 Awst 2018..

Dolenni allanol

golygu