Torra di Finochjarola
Mae Tŵr Finochjarola (Corseg: Torra di Finochjarola) yn dŵr Genoa adfeiliedig yng Nghorsica, wedi ei leoli ar ynys Finochjarola, yn commune Rogliano (Haute-Corse). Mae'r tŵr yn sefyll ychydig i'r gogledd-ddwyrain o borthladd Macinaghju. Mae Ynysoedd Finochjarola wedi'u dynodi'n warchodfa natur ers 1987 ac wedi eu cynnwys yng ngwarchodfa ehangach Cap Corse ers 2017. Oherwydd sefyllfa fregus bywyd gwyllt yr ynysoedd ni chaniateir glanio arnynt gan aelodau'r cyhoedd. Gan hynny nid oes modd ymweld ag adfeilion y tŵr ond mae modd cael golwg da ohoni ar daith môr.
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 42.98°N 9.47°E |
Hanes
golyguRoedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1]. Mae'r tŵr, sy'n agored i wyntoedd uchel a chwistrelliadau'r tonnau, mewn cyflwr gwael iawn. Mae ei hochr gogledd-ddwyreiniol wedi cwympo yn rhannol.[2]. Mae'r tŵr a'i hynys dan ofal Conservatoire du littoral
Gweler hefyd
golyguGaleri
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
- ↑ Tour de la Finocchiarola - Les Tours Génoises du Cap Corse Archifwyd 2021-06-16 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 Awst 2018]
Dolenni allanol
golygu- Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses".[dolen farw] Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.