Mae Tŵr Furiani (Corseg: Torra di Furiani Ffrangeg Tour de Furiani) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Furiani ar ynys Corsica. Mae'r tŵr sgwâr yn sefyll yn y pentref sydd 220 metr (720 troedfedd) uwchben lefel y môr.

Torra di Furiani
MathTyrau Genoa yng Nghorsica, fortified tower Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFuriani Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.65844°N 9.41464°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes golygu

Yn yr Oesoedd Canol roedd Furiani yn gadarnle ffiwdal gyda chastell. Y tŵr yw olion hen Gastell Furiani. Fe'i hailadeiladwyd yn llwyr ar ôl 1763 gan Pascal Paoli, ac felly yn cael ei alw hefyd yn "Tour Paoline".

Tŵr Furiani a'r Tŵr Nonza yw'r unig ddau dŵr sgwâr a godwyd gan Pascal Paoli.

Roedd Furiani yn un o'r cadarnleoedd a oedd yn perthyn i arglwyddi Bagnaria. Bu adeilad amddiffynnol yno o gyfnod ymerodraeth Pisa rhwng y 11 ganrif a'r 15 ganrif. Roedd yn arbennig o bwysig yng nghyfnod Weriniaeth Genoa pan oedd y tŵr yn cael ei ddefnyddio fel un o'r gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1]

Ym 1987 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc.[2]

Ar blac a osodwyd wrth droed y tŵr, ysgrifennwyd y wybodaeth: "Adeiladwyd y tŵr sgwâr, nad yw ei thyrau gwylio wedi eu gorffen, gan Pascal Paoli, yn ystod ei generalate (1765 - 1769). Bu warchae arni saith gwaith rhwng 1729 a 1769. Roedd Furiani, ar adeg y gwrthryfeloedd, yn lle o bwys yn y gwrthwynebiad i Weriniaeth Genoa. Mae dyddiad adeiladu'r clochdy ar ben tŵr yn ansicr ond nodir ei bresenoldeb yn 1839 ".[3]

Gweler hefyd golygu

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense ên Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
  2. "Monuments historiques: Tŵr de Furiani". Ministère de la culture. Cyrchwyd 12 Awst 2018..
  3. Tour paoline de-Furiani adalwyd 12 awst 2018

Dolenni allanol golygu