Torra di Giraglia

Mae Tŵr de Giraglia (Corseg:Torra di Giraglia Ffrangeg Tour de Giraglia) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Ersa (Haute-Corse) ar ynys Giraglia ger arfordir gogleddol Corsica. Mae'r tŵr yn sefyll ar ben gogleddol yr ynys, 40 metr o'r goleudy ar uchder o 60 metr (200 troedfedd) uwchben y môr.

Torra di Giraglia
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirErsa Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau43.0269°N 9.40556°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes golygu

Cychwynnwyd adeiladu'r tŵr ym mis Ebrill 1584. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1]

Mae'r cofnod cyntaf o'r bwriad i adeiladu tŵr ar Giralia wedi dyddio 1573. Penderfynwyd ar gynlluniau'r adeilad yn derfynol ym 1582 gan arglwydd Cap Corse, Don Cristofaro Tagliacarne, a'r llywodraethwr Genoese, Stefano Passano, gyda chytundeb y boblogaeth. Ar 6 Hydref, 1583, dilyswyd y cytundeb adeiladu gan Swyddfa Adeiladu'r Tyrau, gyda Gorffennaf 1584 fel y dyddiad cwblhau arfaethedig.

Cychwynnwyd ar y gwaith dan gyfarwyddyd y pensaer Domenico Pelo. Fodd bynnag, bu problemau logistaidd yn ymwneud â chodi adeilad ar safle ynysig cyfyng. Mewn llythyr dyddiedig 29 mis Gorffennaf 1584 mae Don Tagliacarne yn hysbysu llywodraethwr newydd Genoa, Cattaneo Marini, am anawsterau cludo bwyd ac offer o Bastia i'r Giraglia, gan ofyn am estyniad i'r amser a chaniatawyd i'w hadeiladu. Er gwaethaf y problemau cafodd yr adeilad ei gwblhau ar 16 Tachwedd, 1584 ac roedd yn barod i'w defnyddio erbyn diwedd mis Rhagfyr o'r un flwyddyn. Cost y gwaith oedd 9311 lire a rhoddwyd hawl casglu o ffioedd angori er mwyn adennill yr arian yn ôl.

Mae'r adeilad yn adeilad cerrig sgwâr, sydd heddiw yn eiddo i'r Conservatoire du Littoral. Mae mewn cyflwr da o gadwraeth. Mae'r tŵr ar dair lefel. Ar ben y tŵr mae teras gyda rhyngdyllau sy'n caniatau i'r gwarchodwyr ymosod ar elynion oddi tano. Ar ben y teras mae Guardiola (gwylfa).

O'r 16g i'r 18g, roedd garsiwn y tŵr yn cynnwys pennaeth a thri milwr gan gynnwys o leiaf un bomiwr, a dyn a oedd yn gyfrifol am gyflenwadau a chludiant mewn cwch o Gorsica.[2]

Yn 2008 cafodd yr adeilad ei gofrestru fel Monument historique (cofadail hanesyddol) gan lywodraeth Ffrainc.[3]

Galeri golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. t. 152. ISBN 2-84050-167-8.
  2. Bwrdd twristiaeth Corsica TOUR DE LA GIRAGLIA adalwyd 15 awst 2018
  3. "Monuments historiques: Tŵr de la Giraglia, sur l'île de la Giraglia". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014.

Dolenni allanol golygu