Torra di Girolata

Mae Tŵr de Gerolata (Corseg:Torra di Girolata Ffrangeg Fortin de Gerolata) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Osani (Corse-du-Sud) ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Mae'r tŵr yn sefyll ar uchder o 36 metr (118 troedfedd) ar frig creigiog yn y Golfe de Girolata.

Torra di Girolata
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOsani Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.3475°N 8.61278°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethmonument historique classé, monument selected by the Mission d'Identification du Patrimoine Immobilier en Péril (2019) Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladwyd y twr rhwng 1551 a 1552. Ar y dechrau, goruchwyliwyd y gwaith adeiladu gan Gieronimo da Levanto ond ar ei farwolaeth wnaeth Giovan Battista de'Franchi cymryd ei le. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Yn 2008 fe'i rhestrwyd fel un o henebion hanesyddol Monument historique Ffrainc.[2]

Nid yw'r twr yn agored i'r cyhoedd. Ers 2009 mae asiantaeth o lywodraeth Ffrainc yn berchen arno, y Conservatoire du littoral. Mae'r asiantaeth yn bwriadu prynu 937 hectar (2,320 erw) o'r tir o amgylch Golfe de Girolata.[3]

Galeri

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 107–110. ISBN 2-84050-167-8.
  2. "Monuments historiques: Fortin de Girolata". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014.
  3. Catalogue monuments historiques (Adroddiad). Conservatoire du littoral, Ministère de l'écologie, du développement durable et de l'énergie, République Française. July 2011. p. 44. http://www.conservatoire-du-littoral.fr/include/viewFile.php?idtf=930&path=e7%2F930_116_Catalogue-Illustre-des-Monuments-HistoriquesB.pdf. Adalwyd 27 Ebrill 2015.

Dolenni allanol

golygu