Mae Tŵr Meria (Corseg:Torra di Meria) yn dŵr Genoa adfeiliedig yng Nghorsica wedi ei leoli yn commune Meria ar arfordir dwyreiniol ynys Cap Corse. Mae wedi'i lleoli ar lwyfandir creigiog sy'n edrych dros y môr i'r gogledd o'r marina sy'n dwyn yr un enw a hi.[1]

Torra di Meria
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.93°N 9.47°E Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[2]

Mae gan dŵr Meria bensaernïaeth nodweddiadol o dyrau Cap Corse gydag uchder o tua 13 medr. Mae iddi 2 lefel ynghyd â theras, drws i'r llawr a grisiau allanol. Mae rhywfaint o waith adfer wedi gwneud ar y tŵr er hynny dim ond gweddol yw ei chyflwr. Mae'n weddol hawdd ymweld â'r tŵr trwy ddilyn llwybr bach tua 30 kilometr o hyd o'r ffordd fawr.[1]

Galeri golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Les tours génoises du Cap Corse Archifwyd 2020-04-14 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Rhagfyr 2018
  2. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gorsica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.