Townshend Mainwaring
Roedd Townshend Mainwaring (16 Mawrth 1807 – 25 Rhagfyr 1883) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1841 a 1847 a rhwng 1857 a 1868.
Townshend Mainwaring | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mawrth 1807 |
Bu farw | 25 Rhagfyr 1883 Y Rhyl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Charles Mainwaring |
Plant | Charles Salusbury Mainwaring |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Mainwaring yn Otley Park, Swydd Amwythig yn ail fab i'r Parch Charles Mainwaring, offeiriad Eglwys Loegr a Sarah Susannah Townshend ei wraig.
Mynychodd Ysgol Rugby[1]
Priododd Anna Maria merch hynaf ac etifedd John Lloyd Salisbury, Galltfaenan, ger Henllan pan fu farw Salisbury etifeddodd Mainwaring ei ystâd[2]. Bu iddynt dau fab a dwy ferch.[3]
Gyrfa
golyguGwasanaethodd fel Uwchgapten ym milisia Sir Ddinbych
Yn ogystal â rhedeg ei ystâd roedd Mainwaring yn gyfansoddwr toreithiog o emynau, emyn-donau, operâu, unawdau, deuawdau a darnau corawl. Er mae prin oedd eu safon, a dim un o'i gyfansoddiadau wedi goroesi fel rhai sy'n dal i gael eu canu; mae'n difyr nodi bod Mainwaring yn fonheddwr o Sais a dysgodd digon o Gymraeg i geisio creu sgriptiau dwyieithog, gwallus eu Cymraeg; ond dwyieithog ta waeth; mewn cyfnod pan oedd nifer o'r bonheddwyr o dras cymreiciach yn ymwrthod a'r iaith.
Roedd yn un o sylfaenwyr ac yn gyfarwyddwr Rheilffordd Dyffryn Clwyd a Rheilffordd Rhuthun a Cherrig y Drudion [4]
Gyrfa Wleidyddol
golyguSafodd Mainwaring yn enw'r Blaid Geidwadol yn etholiad cyffredinol 1841 a chael ei ethol yn Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych gan ddal y sedd hyd 1847 pan ymneilltuodd o'r Senedd. Safodd yn yr un etholaeth eto ym 1857 gan gadw'r sedd i'r Blaid Geidwadol a'i dal hyd 1868 pan gafodd ei drechu gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol Charles James Watkin Williams
Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Ddinbych o 1837 hyd ei farwolaeth a fu'n Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1840
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Galltfaenan ar ddydd Nadolig 1883[5] a rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent Eglwys Trefnant, Eglwys a adeiladwyd dan nawdd ei wraig ym 1852.[6]
Cyhoeddiadau
golygu- An address delivered by Townshend Mainwaring, Esq., at the annual meeting of the Machanics' Institution, Denbigh. : Isaac Simon, Dinbych 1853
- "Hanes" of Dafydd and Myfanwy... : T. Thomas, Caer 1852. ailgyhoeddwyd fel:
- Dafydd and Myfanwy. Hanes Cymraeg. (A Welsh romance.) Llundain 1880 (Opera ddwyieithog)
- John Morgan ... C. Lonsdale, Llundain 1870 (Can a cherddoriaeth)
- Emyn ail ddyfodid Crist / Advent hymn Llundain 1877 (Emynau dwyieithog a cherddoriaeth)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Rugby Register, from the Year 1675 to the Present Time [1] adalwyd 24 Awst 2015
- ↑ Archifdy Sir Ddinbych Galltfaenan MSS [2] adalwyd 24 Awst 2015
- ↑ Nicholas, Thomas, 1820-1879 Annals and antiquities of the counties and county families of Wales; containing a record of all ranks of the gentry ... with many ancient pedigrees and memorials of old and extinct families Tud 412 [3] adalwyd 24 Awst 2015
- ↑ "DEATH OF TOWNSHEND MAINWARING ESQ GALLTFAENAN - The Rhyl Advertiser". Amos Brothers ; W. Pugh and J. L. Rowlands. 1883-12-29. Cyrchwyd 2015-08-24.
- ↑ "DEATH OF MR TOWNSHEND MAINWARING - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1883-12-28. Cyrchwyd 2015-08-24.
- ↑ "THE FUNERAL OF MR TOWNSHEND MAINWARING - The Rhyl Advertiser". Amos Brothers ; W. Pugh and J. L. Rowlands. 1884-01-05. Cyrchwyd 2015-08-24.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Wilson Jones |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych 1841 – 1857 |
Olynydd: Frederick Richard West |
Rhagflaenydd: Frederick Richard West |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych 1857 – 1868 |
Olynydd: Charles James Watkin Williams |