Wilson Jones
Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1835 a 1841.
Roedd Wilson Jones (tua 1794 -27 Hydref 1864) yn Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1835 a 1841.[1]
Wilson Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1795 Rhuthun |
Bu farw | 27 Hydref 1864 Yr Wyddgrug |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Roedd Jones yn fab i John Jones, Cefn Coch Rhuthun ac Elizabeth, merch ac etifedd Edward Wilson, Lerpwl.
Ym 1822 Priododd Cecil merch John Carstairs, Warboys Swydd Huntingdon, bu iddynt 4 mab a 4 merch. Bu ei fab hynaf, John Carstairs Jones, yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1866 a Sir Dinbych yn 1874. Priododd un o'u merched, Elizabeth Jane, ag Edmund Swetenham, AS Caernarfon.
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1831.
Daeth yn berchennog ar ystadau Cefn Coch Gelli Gynnan, Llanarmon a Heartsheath, Yr Wyddgrug.
Bu farw yn Heartsheath ym 1864 yn 70 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ William Retlaw Williams 1895; The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 adalwyd 6 Mehefin 2016
- ↑ "Family Notices - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1864-09-03. Cyrchwyd 2016-06-06.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Edward Madocks |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych 1835 – 1841 |
Olynydd: Townshend Mainwaring |