Trawsnewid rhywedd

Y broses o unigolyn trawsryweddol yn newid ei dull o fyw ac yn aml ei rhyw fiolegol er mwyn byw yn y rhywedd mae'n ei arddel yw trawsnewid rhywedd.[1]

Symbol trawsryweddol
Symbol trawsryweddol
Trawsrywedd
Hunaniaethau
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd
Pynciau
Cwestiynu · Trawsrywioldeb
Agweddau clinigol a meddygol
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Rhestrau
Pobl
Categori
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae'r camau y bydd person trawsryweddol yn cymryd wrth drawsnewid yn amrywio o unigolyn i unigolyn. Fel arfer byddai'n cynnwys agweddau cymdeithasol, megis dweud wrth deulu a chyfeillion, gwisgo'n wahanol, a defnyddio cosmetigau neu roi'r gorau iddynt. Byddai'r mwyafrif o bobl sydd yn trawsnewid yn newid ei enw cyntaf. Gall trawsnewid gynnwys triniaethau meddygol, gan gynnwys cwnsela, seicotherapi, therapi hormonau a llawdriniaeth ailbennu rhyw, ac agweddau cyfreithiol fel newid enw a rhyw ar ddogfennau adnabod.[2]

Ffordd arall o ddisgrifio'r broses yw ailbennu rhywedd.[1][2] Yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban, mae ailbennu rhywedd yn nodwedd sydd wedi'i diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer unigolion sydd yn bwriadu dilyn proses neu ran o broses i ailbennu rhywedd trwy newid nodweddion rhywedd ffisiolegol neu nodweddion eraill, neu ei fod eisoes wedi gwneud hynny. Nid oes rhaid i'r newidiadau fod yn driniaethau meddygol.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Geirfa", Stonewall Cymru (18 Hydref 2016). Adalwyd ar 8 Mehefin 2017.
  2. 2.0 2.1 "Rhestr termau[dolen marw]", gwefan Dysfforia Rhywedd GIG Cymru. Adalwyd ar 16 Ebrill 2018.