Tresgl y moch
Potentilla erecta | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Rosaceae |
Genws: | Potentilla |
Rhywogaeth: | P. erecta |
Enw deuenwol | |
Potentilla erecta Uspenski ex Carl Friedrich von Ledebour |
Planhigyn blodeuol sy'n frodorol o Hemisffer y Gogledd yw Tresgl y moch sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Rosaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Potentilla erecta a'r enw Saesneg yw Tormentil.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Tresgl y Moch, Blodyn lesu Grist, Melyn y Gweunydd, Melyn y Twynau, Melyn yr Eithin, Tresgl, Tresgl Cyffredin, Tresgl Melyn, Tresgl yr Eithin, Ysgras.
Mae'r teulu Rosaceae yn perthyn i'r genws Rosa (rhosyn) fel ag y mae'r cotoneaster a'r eirinen. Prif nodwedd y teulu yw ei ffrwythau amrywiol a phwysig i economi gwledydd.[2] Ceir 5 sepal, 5 petal ac mae'r briger wedi'u gosod mewn sbeiral sy'n ffurfio llestr tebyg i gwpan o'r enw hypanthiwm.
Enwau
golyguCymraeg
golyguCeir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys tresgl y Moch, blodyn lesu Grist, melyn y gweunydd, melyn y twynau, melyn yr eithin, tresgl, tresgl cyffredin, tresgl melyn, tresgl yr eithin, ysgras.
Ieithoedd eraill
golygu- Cairt-làir (Gaeleg, Ynysoedd Heledd)
Yn yr Alban cydnebir tresgl y moch am ei rinweddau tebyg i risgl y dderwen. Fe'i proseswyd ar Ynysoedd Heledd ac ar Ynysoedd y Gogledd i wneud hylif i biclo lledr a rhwydi pysgota.
ʼS e cairt-làir a chanadh iasgairean nan Eilean Siar ris an lus, a chionn ʼs gun robhar ga chleachdadh airson cartadh lìn agus leathair (agus gum bi e a’ fàs gu h-ìosal air an talamh no ‘làr’). Bha cairt bho thùs a’ ciallachadh rùsg (craoibhe); bhiodh na seann daoine ag ràdh ‘cairt dharaich’ ri ‘rùsg daraich’. Ach dh’atharraich e gu bhith a’ ciallachadh a’ phròiseis airson seicheannan agus lìn a dhìon cuideachd – a chionn ʼs gur ann le cairt a bhathar ga dhèanamh. Ge-tà, nuair a dh’fhalbh craobhan-daraich thairis air mòran dhen Ghàidhealtachd, bhathar a’ coimhead airson stuth ùr a dhèanadh cartadh. Agus tha na freumhaichean (rìosoman) aig an lus seo làn stuthan-cartaidh.
Bhiodh na rìosoman air an goil ann am prais mhòr agus bhite a’ bogadh an leathair agus nan lìon anns an lionn nuair a bha e fionnar. Ach, an coimeas ri rùsg daraich, bha e a’ toirt ùine mhòr airson stuth gu leòr fhaighinn. Bhathar a’ tomhas gun toireadh e fad-latha do dh’aon duine freumhaichean gu leòr dhen chairt-làir fhaighinn airson aon bhogadh. Ann an eileanan a bha gann de chraobhan, leithid Colla is Tiriodh, chaidh casg a chur air cruinneachadh an luis a chionn ʼs gun robh e a’ dol à bith.
Cyfieithiad: Efallai mai'r enw mwyaf cydnabyddedig yn yr [Gaeleg|Aeleg] ydi hwnnw a roddir iddi gan bysgotwyr Ynysoedd Heledd sef cairt-làir (rhisgl daear), cydnabyddiaeth o werth y planhigyn fel deunydd 'tannu', trin neu biclo nwyddau fel lledr a rhwydi pysgota i'w cadw rhag pydru. Daeth y gair cairt i olygu deunydd tannu fel ffynhonnell pwysicaf taninau a ddeuai yn wreiddiol o risgl coed derw. Fodd bynnag, wrth i'r deri brinhau neu weithiau ddiflannu'n llwyr mewn rhannau o'r Ucheldir, daeth gwreiddiau chwyddedig cochaidd y tresgl yn opsiwn amgen ar gyfer y taninau hyn. Ar Ynysoedd y Gogledd adwaenir y planhigyn fel bark-flooer am yr un rheswm.
Berwid y gwreiddiau mewn cafn ac fe drochwyd y lledr neu'r rhwydi yn yr hylif ar ôl iddo glaearu. Fodd bynnag, pethau bychan yw gwreiddiau'r tresgl a deallwn o un adroddiad 19g. y cymerasai un person ddiwrnod cyfan i gasglu digon ar gyfer un trwyth. Ar ynysoedd lled di-goed fel Colla (Coll) a Tiriodh (Tiree), gwaharddwyd ei ddefnydd rhag ei or-gynaeafu.[1]
- Bark-flooer Saesneg-Nors, Ynysoedd y Gogledd
Gweler uchod
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ B.C. Bennett (undated). Economic Botany: Twenty-Five Economically Important Plant Families. [http: //www.eolss.net/Sample-Chapters/C09/E6-118-03.pdf Encyclopedia of Life Support Systems (EOLSS) e-book]