Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (talfyrir hefyd i Cyllid a Thollau EF neu CThEF;[1] Saesneg: His Majesty's Revenue and Customs; HM Revenue and Customs, HMRC[2]) yn adran anweinidogol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am gasglu trethi, talu rhai mathau o gymorth gwladwriaethol a gweinyddu cyfundrefnau rheoleiddio eraill, gan gynnwys yr isafswm cyflog cenedlaethol. Enw'r corff oedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ond newidiwyd y treiglad yn 2023 i adlewyrchu'r ffaith mai Charles III yw Brenin y Deyrnas Uniedig yn hytrach nag Elisabeth II.[3]
Enghraifft o'r canlynol | adran anweinidogol o'r llywodraeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 18 Ebrill 2005 |
Pennaeth y sefydliad | First Permanent Secretary and Chief Executive of HM Revenue and Customs |
Prif weithredwr | Jim Harra |
Rhagflaenydd | Inland Revenue, HM Customs and Excise |
Pencadlys | Government Offices Great George Street |
Gwefan | http://www.hmrc.gov.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffurfio
golyguFfurfiwyd CThEM wedi i Gyllid y Wlad ('Inland Revenue') a Thollau Tramor a Chartref EM ('HM Customs and Excise') gael eu huno'n un corff, newid a ddaeth i rym yn swyddogol ar 18 Ebrill 2005.[4]
Cyhoeddwyd uno Cyllid y Wlad a Thollau Tramor a Chartref EM gan Gordon Brown, oedd yn Ganghellor y Trysorlys ar y pryd, yn y gyllideb ar 17 Mawrth 2004. Cyhoeddwyd enw’r adran newydd a’i chadeirydd gweithredol cyntaf, David Varney, ar 9 Mai 2004. Ymunodd Varney â’r adran newydd ym mis Medi 2004, a dechreuodd staff symud o Somerset House a New Kings Beam House i bencadlys newydd CThEM yn 100 Parliament Street yn Whitehall ar 21 Tachwedd 2004.
Crëwyd y goron sydd i'w gweld yn logo'r corff ar ddechrau'r 16g ar gyfer naill ai Harri VII neu Harri VIII, brenhinoedd Tuduraidd cyntaf Lloegr, ac fe gafodd ei dinistrio ym 1649 yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Cyfrifoldebau Adrannol
golyguMae'r adran yn gyfrifol am weinyddu a chasglu trethi uniongyrchol, gan gynnwys treth incwm, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf a threth etifeddiaeth, trethi anuniongyrchol, gan gynnwys treth ar werth, tollau ecséis a threth stamp, a threthi amgylcheddol, megis Toll Teithwyr Awyr (APD) a'r Ardoll Newid Hinsawdd (CCL).
Strwythur llywodraethu
golyguMae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn cynnwys aelodau o'r Pwyllgor Gweithredol a chyfarwyddwyr anweithredol. Ei brif rôl yw datblygu a chymeradwyo strategaeth gyffredinol Cyllid a Thollau ei Fawrhydi, cymeradwyo cynlluniau busnes terfynol a chynghori'r Prif Weithredwr ar brif benodiadau. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd ac yn cynghori ar arfer gorau.
Gweinidog y Trysorlys sy’n gyfrifol am y corff yw Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, Jesse Norman.[5]
Gwasanaeth Gymraeg
golyguCeir rhywfaint o ddarpariaeth iaith Gymraeg gan Gyllid a Thollau ei Fawrhydi.[6] Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar-lein yn y Gymraeg a hefyd gwasanaeth ffôn yn Gymraeg i drethdalwyr. Yn 2020 bu i dros 20,000 o bobl ffonio swyddfeydd treth Cymru ym Mhorthmadog a Chaerdydd i gael cyngor yn Gymraeg. Nodwyd hefyd yn 2019 i'r gwasanaeth gyfieithu dros 1.5 miliwn o eiriau.[7]
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Gwasanaethau Cyllid a Thollau EF yn y Gymraeg gwefan swyddogol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cyllid a Thollau EF". Gwefan CThEF. Cyrchwyd 16 Hydref 2024.
- ↑ "Her Majesty's Revenue and Customs". Commissioners for Revenue and Customs Act 2005. legislation.gov.uk. Cyrchwyd 5 Awst 2012.
- ↑ "Coroni y Brenin Charles III yn Abaty Westminster". Newyddion S4C. 6 Mai 2023.
- ↑ "HM Revenue and Customs: About Us". Hmrc.gov.uk. 18 Ebrill 2005. Cyrchwyd 21 Mehefin 2009.
- ↑ "Norman replaces Stride as financial secretary to Treasury". Accountancy Daily. Cyrchwyd 27 Mawrth 2020.
- ↑ "Cyllid a Thollau EF". Gwefan CThEF. Cyrchwyd 16 Hydref 2024.
- ↑ "Tros 20,000 yn ffonio i gael cyngor am drethi yn Gymraeg". Golwg360. 2020. Cyrchwyd 16 Hydref 2024.