Mae tretinoin, sydd hefyd yn cael ei alw’n asid retinoig pob trans (ATRA), yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin acne a lewcemia promyelocytig acíwt.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₀H₂₈O₂. Mae tretinoin yn gynhwysyn actif yn Retin-A, Renova, Atralin, Tretin X, Refissa ac Avita.

Tretinoin
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathasid carbocsylig, retinoic acid Edit this on Wikidata
Màs300.209 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₂₀h₂₈o₂ edit this on wikidata
Enw WHOTretinoin edit this on wikidata
Clefydau i'w trinAcne, clefyd y croen, dermatosis gwynebol, lewcemia promyelocytig acíwt, liwcemia myeloid aciwt, acne edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia x, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Yn cynnwyscarbon, ocsigen, hydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnydd meddygol

golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • acne
  • clefyd y croen
  • dermatosis gwynebol
  • lewcemia promyelocytig acíwt
  • lewcemia myeloid aciwt
  • acne
  • Sgil effeithiau

    golygu

    Mae sgil effeithiau cyffredin, pan fo'r cyffur yn cael ei weini trwy'r genau, yn cynnwys diffyg anadl, cur pen, fferdod, iselder, sychder y croen, cosi, colli gwallt, chwydu, poen yn y cyhyrau, a newidiadau golwg. Mae sgil effeithiau difrifol eraill yn cynnwys nifer uchel o gelloedd gwaed gwyn a chlotiau gwaed. O'i ddefnyddio fel hufen mae sgil effeithiau yn cynnwys cochni ar y croen, pilio a sensitifrwydd i'r haul. Mae defnydd yn ystod beichiogrwydd yn niweidio'r babi yn y groth[2].

    Rhoddwyd Patent i tretinoin ym 1957 a'i gymeradwyo ar gyfer defnydd meddygol ym 1962. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae tretinoin ar gael fel meddyginiaeth generig. Yn y Deyrnas Unedig, mae'r hufen ynghyd ag erythromycin yn costio'r GIG tua £ 7.05 fesul 25ml tra bo'r tabledi yn costio £ 1.61 am 10 mg.

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Tretinoin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • Tretinoin、ATRA
  • trans-Retinoate
  • Renova®
  • Avita®
  • All-(E)-Retinoate
  • 3,7-Dimethyl-9-(2,6,6-trimethyl-1-cyclohexen-1-yl)-2,4,6,8-nonatetraenoic acid
  • 3,7-Dimethyl-9-(2,6,6-trimethyl-1-cyclohexen-1-yl)-2,4,6,8-nonatetraenoate
  • Tretinoine (Ffrengig)
  • Acide retinoique (Ffrengig)
  • asid retinoig pob trans (ATRA)
  • Cyfeiriadau

    golygu
    1. Pubchem. "Tretinoin". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Unknown parameter |adalwyd= ignored (help)
    2. "Tretinoin". The American Society of Health-System Pharmacists. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Tachwedd 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!