Trieste and the Meaning of Nowhere

Llyfr taith Saesneg am ddinas Trieste yn yr Eidal gan Jan Morris yw Trieste and the Meaning of Nowhere a gyhoeddwyd yn Lloegr gan Faber and Faber yn 2002. Yn 2014 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Trieste and the Meaning of Nowhere
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJan Morris
CyhoeddwrFaber and Faber
GwladLloegr
IaithSaesneg
Argaeleddmewn print.
ISBN9780571204687
Tudalennau194 Edit this on Wikidata
GenreTeithlyfr

Llyfr a gyhoeddwyd i ddathlu pen-blwydd yr awdur yn 75 oed, yn cynnwys atgofion personol melys a chwerw am Trieste, dinas llawn awyrgylch ac ysbrydoliaeth, atgofion sy'n adlewyrchu cyfnodau ac agweddau amrywiol ym mywyd yr awdur. Ceir 18 ffotograff du-a-gwyn.

Daw nifer o atgofion yr awdur o'r cyfnod pan oedd y ddinas yn diriogaeth o dan adain y Cenhedloedd Unedig fel Tiriogaeth Rydd Trieste yn syth wedi'r Ail Ryfel Byd.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 28 Mehefin, 2013