Troellwr llydanbig Awstralia

rhywogaeth o adar
Troellwr llydanbig Awstralia
Podargus strigoides

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Caprimulgiformes
Teulu: Podargidae
Genws: Podargus[*]
Rhywogaeth: Podargus strigoides
Enw deuenwol
Podargus strigoides

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Troellwr llydanbig Awstralia (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: troellwyr llydanbig Awstralia) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Podargus strigoides; yr enw Saesneg arno yw Tawny frogmouth. Mae'n perthyn i deulu'r Troellwyr llydanbig (Lladin: Podargidae) sydd yn urdd y Caprimulgiformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. strigoides, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Awstralia.

Teulu golygu

Mae'r troellwr llydanbig Awstralia yn perthyn i deulu'r Troellwyr llydanbig (Lladin: Podargidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Troellwr llydanbig Awstralia Podargus strigoides
 
Troellwr llydanbig Blyth Batrachostomus affinis
 
Troellwr llydanbig Borneo Batrachostomus cornutus
 
Troellwr llydanbig Dulit Batrachostomus harterti
 
Troellwr llydanbig Gould Batrachostomus stellatus
 
Troellwr llydanbig Hodgson Batrachostomus hodgsoni
 
Troellwr llydanbig Jafa Batrachostomus javensis
 
Troellwr llydanbig Papwa Podargus papuensis
 
Troellwr llydanbig Sri Lanka Batrachostomus moniliger
 
Troellwr llydanbig manfrech Podargus ocellatus
 
Troellwr llydanbig mawr Batrachostomus auritus
 
Troellwr llydanbig pengwyn Batrachostomus poliolophus
 
Troellwr llydanbig y Philipinau Batrachostomus septimus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Adnabod golygu

Profiad Twm Elias ohono:

Aderyn tua maint colomen, gyda chuddliw gwych. Ceg/pig anhygoel o lydan a’i lygaid bron iawn iawn ar gau. Yn ystod y dydd bydd yn gorwedd ar hyd cangen yn hytrach na ar ei thraws ac felly yn edrych fel cainc fer ar y gangen. Aderyn lled gyffredin, fe’i gwelais ar goeden isel yn agos at waelod craig fawr goch Uluru. Ar ddaliad mawr (‘fferm’ wartheg dros filiwn acer) perthynas imi yng ngorllewin Queensland roedd teulu o rhain ar y coed eucaluptus mawr (coed cysgod i’r tŷ). Roedd fy nghyfnither a’i theulu yn falch o’u cael. Yr ‘owls’ oedd hi yn eu galw am mai adar y nos ydynt. Dyma enw cyffredin arnynt yn Queensland, w’n i ddim am weddill Awstralia' (Cymuned Llên Natur FB[1]

Tacsonomeg golygu

Disgrifiwyd y troellwr llydanbig gyntaf ym 1801 gan y naturiaethwr Seisnig John Latham. Mae ei epithet penodol ‘’strigoides’’ yn deillio o ‘’strix’’, y Lladin am 'tylluan' ac ‘-oides', “ffurf'’. Mae troellwyr llydanbig Awstralia yn perthyn i genws y troellwyr llydanbig Podargus, sy'n cynnwys y ddwy rywogaeth arall o droellwyr llydanbig a geir yn Awstralia, y troellwr llydanbig manfrech a throellwr llydanbig Papwa. Mae'r troellwyr llydanbig yn ffurfio grŵp wedi'i ddiffinio'n dda o fewn trefn urdd y Caprimulgiformes. Er eu bod yn gysylltiedig â thylluanod, eu perthnasau agosaf yw'r adar olew, potẃau, y tylluan droellwyr y nos, a throellwyr go iawn. Daw'r dystiolaeth ffosil gynharaf o droellwyr llydanbig o Gyfnod daearegol yr Eosén ac mae'n awgrymu eu bod wedi gwyro oddi wrth eu perthnasau agosaf yn ystod yr Oes Trydyddol cynnar. Ar hyn o bryd, cydnabyddir tair isrywogaeth o droellwr llydanbig Awstralia.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  Safonwyd yr enw Troellwr llydanbig Awstralia gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.