Yr Arglwydd Rhys (pryddest)
- Mae'r erthygl hon am y gerdd gan W. J. Gruffydd. Am destun y gerdd, gweler Rhys ap Gruffudd.
Pryddest yw Yr Arglwydd Rhys gan W. J. Gruffydd. Cyfansoddwyd y gerdd yn 1909 ac enillodd Coron Eisteddfod y flwyddyn honno i'r bardd, sef yr unig dro iddo ennill un o brif wobrwyau'r Eisteddfod. Testun y gerdd yw Rhys ap Gruffudd, tywysog Deheubarth o 1155-1197.
Crynodeb o gynnwys y gerdd
golyguMae'r gerdd yn agor mewn llannerch mewn coedwig yn Nyffryn Tywi lle mae'r Arglwydd Rhys, yn hwyr yn ei deyrnasiad, yn hamddena. Mae'n aniddig, fodd bynnag, gan ei fod yn talu teyrnged i Frenin Lloegr, wedi treulio'i fywyd yn ei gynorthwyo, ac yn derbyn sicrwydd a diogelwch ei nawdd yntau, tra'n ymwybodol o hyd bod ei gyd-Gymru'n dioddef dan orthrwm y Saeson. Mae ei gydwybod yn ei wawdio:
Y gwan, fu’n galw Rhys
I’w godi o’i dlodi llwm,
O’i orthrwm mi wna frys,
Daeth arno gysgu trwm:
Paham y rhaid tosturio wrth
Y tlawd a’i felys huno swrth?
Mae Cymru yn cael nef
Yng ngwin y Norman hael;
Paham y codwn lef
I arbed cam y gwael?
Mae Rhys yn cymharu ei hun â Wlysses, fu'n gorfod dewis aros gyda'r dduwies Athena neu barhau ar ei daith adref i Ithaca. Mae'n ceisio perswadio'i hun mai doeth yw aros a'i fod yn haeddu'r hamdden y mae bellach yn ei fwynhau, ac mae cyflafan gwaedlyd byddai gwrthsefyll y Saeson:
Na, mi lafuriais, a gorffwysaf bellach,
Ac nid oes imi a enillwyf mwy.
Pa les fai cyfarth yr hen gadno llwyd,
Hen lwynog Lloegr yng nghil ei wâl? Pa les
Fai galw eto’n ôl i wlad y De
Y cythraul a fu’n troi ei gerddi’n garnedd,
Fu’n chwythu goddaith tros gartrefi clyd
Ei gwyrda, fu’n troi aelwyd lom
Ei mil taeogion yn un foddfa waed?
Daw milwr i ofyn cymorth Rhys, ond mae'n gwrthod. Yn ail rhan y gerdd mae Rhys yn gwrando yr Archesgob Baldwyn sy'n gofyn iddo ymuno â Chroesgad; mae Rhys yn gwrthod ac yn dirmygu'r offeiriad:
—“ffeils offeiriaid oll,
Yn addo’r hyn nas gellwch chwi ei roi!
Pa waed erioed dywalltwyd na bu llef
Eich teulu chwi yn gorfoleddu drosto?
Pa bryd y collodd un o’ch cwmni chwi
Un dafn o waed? A fu un pang i chwi
O holl ddioddef byd?—Na, gwn eich helynt,
Yn tyfu’n fras ar waed brenhinoedd ffôl.”
Fodd bynnag mae dwy farchog Normanaidd yn ateb galw'r offeiriad, ac yn datgan eu bwriad i ymuno â'r croesgad i ymladd rhan eu Duw. Gofynna'r archesgob eto a fydd Rhys yn gwneud, a gwrthoda eto.
Yn nhrydedd rhan y gerdd daw Hywel, un o feibion Rhys, i ofyn iddo eto frwydro i ryddhau Cymru o'r Normaniaid, a'r tro hwn mae Rhys, er gwaetha'i oed, yn cytuno i arwain gwrthryfel ac yn trechu nifer o gestyll.
Mae'r gerdd yn gorffen gyda Rhys ar ei wely angau; gofynna'r cyffeswr iddo a fu iddo ateb galwad ei Dduw drwy ymuno a'r croesgad. Mae Rhys yn cyfaddef na fu iddo wneud hynny; fodd bynnag, pan ofynna'r cyffeswr iddo a fu iddo
“A wnaethost rywbeth cyn i’r Angau glas
Roi terfyn ar dy gyfle a’th ddyhead?”
Ateba Rhys:
“Do, do, fy nhad,” a chodi’i ben yn hy,
A bwrw cwilydd ymaith, a rhoi bloedd
Lawn buddugoliaeth, dros bob cwr o’i lys:
“Mi godais yn fy henaint fel hen lew
I ysgwyd ymaith y Normaniaid mân,
Ac mewn un ymgyrch—Duw faddeuo’r oed—
Anghofiais lesgedd a chywilydd oes,
Ac wele ’ngoror bellach oll yn rhydd!”
Cerdd ramantaidd yw'r bryddest sy'n dathlu penderfyniad Rhys i weithredu yn ôl ei deyrngarwch i'w wlad a'i urddas personol. Rhyw 900 o linellau sydd i'r gerdd, sef yr un hiraf a gyfansoddodd Gruffydd; mae'n sylweddol hirach na'i bryddest flaenorol Trystan ac Esyllt, a gyfansoddwyd ar gyfer Eisteddfod 1902. Llinellau di-odl o ddeg sill yw mwyafrif y gerdd, er bod rhai llinellau sill neu ddau'n hirach; ag eithrio "canu" cydwybod Rhys, sydd ar fesur odliedig telynegol.
Beirniadaeth
golyguEr gwaetha'r ffaith i'r gerdd ennill iddo'r Goron, cyfeiriodd Gruffydd ati fel "ymarfer[iad] prentisiaidd" yn ei ragymadrodd i Ynys yr Hud a Chaneuon Eraill.[1] Datganiad rhyfedd yw hwn yng ngolau'r ffaith iddo gynnwys y gerdd yn y casgliad, a'i chynnwys eto yn Caniadau, y casgliad a gyhoeddodd o'i ddetholiadiau personol o'i yrfa farddonol gyfan yn 1932. Mae'n bosib mai'r esboniad am hyn yw ei natur fel cyfansoddiad Eisteddfodol a bod Gruffydd, erbyn adeg y cyhoeddiad yn 1923, wedi cefnu i raddau helaeth ar sefydliad yr Eisteddfod. Mae'n bosib hefyd iddo ddechrau cefnu ar aestheteg ramantaidd y gerdd: mae naws tra gwahanol i'r farddoniaeth ysgrifennodd Gruffydd yn negawd cynta'r ganrif o'i gymharu â'r cerddi ysgrifennodd yn ystod ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a hwyrach bod ei bryddest erbyn adeg ei chyhoeddi yn cynrychioli oes cynharach yn ei yrfa farddonol iddo.
Nid yw agwedd di-hid Gruffydd ynghylch y gerdd wedi'i adlewyrchu ym marn gyffredinol beirniaid yn ei chylch. Disgrifiwyd y gerdd yn un "awenyddgar" gan R. Silyn Roberts, un o'r beirniaid,[2] ac mewn adolygiad o Ynys y Hud a Chaneuon Eraill disgrifiwyd y gerdd fel "campwaith", gan ddweud bod dylanwad Tennyson a Matthew Arnold i'w weld ynddi;[3] er bod y ddylanwad Seisnig honno'n fai ar y gerdd ym marn J. Gwyn Griffiths.[4] Ym marn T. Robin Chapman mae'r gerdd yn rhagori ar Trystan ac Esyllt oherwydd ei bod yn "fwy disgybledig a llai uchelgeisiol"; oherwydd bod y testun yn un "na ddewisai Gruffydd byth ganu arno" gorfodwyd iddo gynllunio'r gerdd yn ofalus gan lwyddo i lunio "Pryddest gynnil a gochelgar, yw, heb ynddi ddim o'r afradlonedd oedd wedi nodweddi cynnig 1902".[5]
Cymharol ychydig o fanylion bywgraffiadol am Rhys ap Gruffudd ei hun nac o fanylion hanesyddol am ei oes sydd yn y gerdd, ac nid yw'n esbonio'r rhesymau dros y sefyllfa mae'n cael ei hun ynddo. "Drama personoliaeth Rhys a ddaliodd [sylw W. J. Gruffydd]... Troes ei hanes yn fyfyrdod Corneillaidd ar ystyr anrhydedd."[5]
Cyhoeddiadau
golyguYmddangosodd y gerdd yn y gyfrol Ynys yr Hud a Chaneuon Eraill, detholiad o farddoniaeth Gruffydd a gyhoeddwyd yn 1923; cynhwyswyd y gerdd unwaith eto yn Caniadau y bardd yn 1932.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ W. J. Gruffydd, Ynys yr Hud a Chaneuon Eraill (Caerdydd: Y Cwmni Cyhoeddi Addysgol, 1923), t.viii
- ↑ Deian Hopkin (2000) "Llafur a'r Diwylliant Cymraeg", Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, Cyf. 7; t.139
- ↑ J. T. Jones, "Adolygiadau", Cymru 64 (1923): 107
- ↑ J. Gwyn Griffiths, "Y Greal a Cherddi Eraill" (Adolygiad), Y Fflam, Rhagfyr 1946. t.53.
- ↑ 5.0 5.1 T. Robin Chapman, W. J. Gruffydd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1993), t.47