Tudor Elwyn Watkins
Roedd Tudor Elwyn Watkins, y Barwn Watkins o Lantawe (9 Mai 1903 – 2 Tachwedd 1983) yn wleidydd Plaid Lafur Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed.[1]
Tudor Elwyn Watkins | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mai 1903 Aber-craf |
Bu farw | 2 Tachwedd 1983 Aberhonddu |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Watkins yn Abercraf, yr hynaf o wyth o blant Howell Watkins ac Ann (née Griffiths) ei wraig. Glöwr oedd Howell Watkins o ran ei alwedigaeth ond yr oedd hefyd yn un o hoelion wyth ei gymdeithas gan wasanaethu fel Cynghorydd Sir Llafur, Ynad Heddwch a phregethwr a blaenor gyda'r Bedyddwyr.
Cafodd ei addysgu yn ysgol elfennol Abercraf gan ymadael a'r ysgol er mwyn gweithio yn y pwll glo yn 13 oed. Parhaodd gyda'i addysg trwy fynychu dosbarthiadau efrydiau allanol a drefnwyd gan Brifysgol Cymru, Mudiad Addysg y Gweithwyr a Chyngor Cenedlaethol y Colegau Llafur. Derbyniodd ysgoloriaeth i fynd yn fyfyriwr lawn amser yng Ngholeg Harlech ym 1925.[2]
Ym 1936 Priododd Bronwen R. Stather trydedd ferch Thomas Stather, Talgarth[3]. Ni fu iddynt blant.
Gyrfa
golyguWedi ymadael a'r ysgol aeth i weithio fel glöwr am wyth mlynedd rhwng 1917 a 1925. Wedi cyflawni ei gwrs yng Ngholeg Harlech dychwelodd i'w ardal enedigol i weithio fel trefnydd cyflogedig ac asiant y Blaid Lafur yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed gan barhau yn y swydd tan 1945.
Gyrfa Wleidyddol
golyguAr ymddeoliad y cyn Aelod Llafur, William Frederick Jackson, o’r Senedd yn etholiad cyffredinol 1945 dewiswyd Watkins fel olynydd iddo. Llwyddodd i gadw'r sedd i Lafur a'i dal hyd ei ymddeoliad yntau ym 1970.
Ym 1964 cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i James Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, gan barhau yn yr un swydd o 1966 i 1967 pan benodwyd Cledwyn Hughes yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru Gwasanaethodd fel Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Seneddol ar Amaethyddiaeth o 1966 i 1968. Roedd Watkins yn bryderus am be fyddai'r effaith ar amaethyddiaeth pe bai Prydain yn ymuno a'r Farchnad Gyffredin, gan hynny anwybyddodd chwip y Blaid Lafur ac ymatal ei bleidlais ar Fesur y Farchnad Cyffredin; gorfododd y Brif Weinidog ar i Cledwyn Hughes ei ddiswyddo fel Ysgrifennydd Preifat. O ganlyniad i'w diswyddo bygythiodd Watkins i ymddiswyddo o'r senedd gan achosi isetholiad. Fe berswadiwyd i beidio cyflawni ei fygythiad trwy ganiatáu iddo barhau fel Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Amaethyddiaeth a oedd yn craffu oblygiadau'r mesurau Ewrop ar amaethyddiaeth.[4]
Un o'i llwyddiannau nodedig cyntaf fel Aelod Seneddol oedd cadw'r Cerddinen wen fach, rhosyn prin a dyfai yn Sir Frycheiniog rhag difodiant, trwy gael y Weinyddiaeth Amddiffyn i ymatal rhag cynnal arbrofion ffrwydrol yn ei gynefin.[5]
Roedd Watkins yn un o'r pum AS Llafur Cymreig a aeth yn groes i orchymyn ei blaid drwy roi cefnogaeth i Ymgyrch Senedd i Gymru y 1950au[6]. Roedd yn heddychwr ac yn gefnogol i'r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear. Ym 1953 pleidleisiodd yn groes i chwip y Blaid Lafur yn erbyn mesur i ymestyn Gwasanaeth Milwrol Cenedlaethol am gyfnod o 5 mlynedd ychwanegol.[7]
Yn ogystal â gwasanaethu fel Aelod Seneddol yr oedd hefyd yn Gynghorydd Sir gan wasanaethu ar Cyngor Sir Aberhonddu o 1940 hyd at ei ddiddymu ym 1974 ac yna fel Cynghorydd a chadeirydd cyntaf Gyngor Sir Powys o 1974 i 1977.
Cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi ym 1972 fel y Barwn Watkins o Lantawe. Bu'n gwasanaethu fel Arglwydd Raglaw Powys o 1975 i 1978.
Gwaith cyhoeddus amgen
golyguGwasanaethodd ar Banel Cymreig y Cyngor Prydeinig, Bwrdd Twristiaeth Cymru, Pwyllgor Rheoli Ysbyty Brycheiniog a Maesyfed, Pwyllgor Ymgynghorol Cymreig Hedfan Sifil, a Chymdeithas Datblygu Diwydiannol Canolbarth Cymru. Bu'n gadeirydd Pwyllgor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o 1974 i 1978.
Marwolaeth
golyguBu farw yn Ysbyty Goffa Aberhonddu yn 80 mlwydd oed o gymhlethdodau yn codi o gleddyf y siwgr. Amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Llwydcoed a rhoddwyd ei lwch i orwedd ym mynwent Eglwys Dewi Sant, Llanfaes.
Ers 2012 Mae cangen Aberhonddu a Sir Faesyfed o'r Blaid Lafur wedi cynnal Darlith Goffa Tudor Watkins. Y darlithydd cyntaf oedd Owen Smith AS.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur arlein WATKINS, TUDOR ELWYN, Barwn Watkins o Lantawe (1903-1983) [1] adalwyd 3 Mai 2015
- ↑ WATKINS’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2015; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 [2], adalwyd 3 Mai 2015 trwy docyn darllenydd LLGC
- ↑ FreeBMD
- ↑ The Guardian 13 mai 1967 Dismissed PPS may resign his seat [3] adalwyd 3 Mai 2015 trwy docyn darllenydd LLGC
- ↑ Jones, David. Welsh Wildlife (It's Wales series). Talybont: Y Lolfa, 2003; t. 41 ISBN 0862436540 [4][dolen farw]
- ↑ Manchester Guardian 27 Mai, 1954 HOME RULE FOR WALES: Labour Divided: Five M.P.s to be "Carpeted" [5] adalwyd 3 Mai 2015 trwy docyn darllenydd LLGC
- ↑ Manchester Guardian 18 Tachwedd 1953 40 LABOUR M.P.s IGNORE PARTY: National Service Vote[6] adalwyd 3 Mai 2015 trwy docyn darllenydd LLGC
- ↑ Gwefan Owen Smith [7] Archifwyd 2015-03-26 yn y Peiriant Wayback adalwyd 3 Mai 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Frederick Jackson |
Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed 1945 – 1970 |
Olynydd: Caerwyn Roderick |