Tudur ap Gruffudd
Tudur ap Gruffudd neu Tudur ap Gruffudd Fychan (c.1357 - 1405) oedd un o ddau frawd Owain Glyn Dŵr ac un o gapteiniaid blaenaf y tywysog hwnnw.[1]
Tudur ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | c. 1357 |
Bu farw | 5 Mai 1405 |
Tad | Gruffudd Fychan II |
Mam | Elen ferch Thomas ap Llywelyn ab Owain ap Maredudd |
Plant | Lowri ferch Tudur |
Bywgraffiad
golyguPrin yw'r cofnodion penodol amdano. Cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1357, dwy neu dair mlynedd ar ôl geni Glyn Dŵr ei hun, yn fab i Gruffudd Fychan (m. cyn 1370) a'i wraig Elen ferch Tomas ap Llywelyn. Diau iddo gael ei fagu ar aelwyd Sycharth, maenordy y teulu.[1]
Bu Tudur yn gydymaith agos i Glyn Dŵr o'r cychwyn cyntaf. Cofnodir iddo fynd i'r Alban gyda'i frawd a'r brudiwr Crach Ffinnant yn 1384 pan gawsant eu gwysio gan y brenin Rhisiart II o Loegr i wasanaethu gyda chatrawd o Gymry eraill yng ngarsiwn Berwick. Ymddengys ei fod yno tan 1385. Ymhlith y milwyr yno oedd Henry Percy, Iarll 1af Northumberland, a'i fab Hotspur; dau ŵr a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn nes ymlaen yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr. Roedd y brodyr gyda'i gilydd yng ngosgordd Iarll Arundel yn 1387 yn ogystal.[1]
Mae'r ail gofnod amdano yn dweud ei fod wrth ochr Glyn Dŵr pan lawnsiwyd y gwrthryfel ar 16 Medi 1400, yng Nglyndyfrdwy, Meirionnydd, trwy gyhoeddi Glyn Dŵr yn Dywysog Cymru. Cyfeirir ato fel arglwydd Gwyddelwern.[1]
Er na cheir cyfeiriadau ato yn bersonol, gellir derbyn fod Tudur wedi cymryd rhan mewn llawer o'r brwydro dros y blynyddoedd nesaf a welodd Glyn Dŵr yn ymestyn ei awdurdod dros rhan helaeth o'r wlad.[1]
Lladdwyd Tudur ym Mrwydr Pwll Melyn, ym mis Mai 1405.[1]