Pentref, a cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Gwyddelwern("Cymorth – Sain" ynganiad ). Arferai fod yn Edeyrnion ac yn Sir Feirionnydd. Saif y pentref ar y briffordd A494 rhwng Corwen a Bryn Saith Marchog, rhyw ddwy filltir i'r gogledd o Gorwen. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Beuno, a fu'n byw yma am gyfnod, ac mae'r fynwent gron yn awgrymu ei bod yn sefydliad hynafol.

Gwyddelwern
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth500, 496 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,765.91 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.009°N 3.38°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000155 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ075465 Edit this on Wikidata
Cod postLL21 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auBecky Gittins (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Becky Gittins (Llafur).[1][2]

Tŷ Mawr, Gwyddelwern

Gwyddelwern oedd yr orsaf reilffordd gyntaf yn Nyffryn Edeyrnion pan agorwyd hi yn 1864 gan reilffordd Dinbych, Rhuthun a Chorwen. Caewyd y rheilffordd i deithwyr yn 1953 ac i nwyddau yn 1957.

Roedd Arglwyddiaeth Gwyddelwern yn rhan o Powys Fadog, ac yn 1400 cofnodir bod yr arglwyddiaeth yn cael ei dal gan Tudur ap Gruffudd Fychan, brawd iau Owain Glyndŵr. Roedd sawl chwarel ger y pentref, gan gynnwys chwarel ithfaen Wern Ddu a chwarel tywodfaen Craig Lelo i'r gogledd o'r pentref, yn ogystal â chwareli llechi a phlwm.[3]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Gwyddelwern (pob oed) (500)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gwyddelwern) (295)
  
60.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gwyddelwern) (325)
  
65%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Gwyddelwern) (55)
  
25.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3.  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Jeremy Wilkinson (2004). Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2013.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.