Brwydr Pwll Melyn

Brwydr a ymladdwyd ar neu o gwmpas 5 Mai 1405 yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr oedd Brwydr Pwll Melyn.

Brwydr Pwll Melyn
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad5 Mai 1405 Edit this on Wikidata
Rhan ogwrthryfel Owain Glyn Dŵr Edit this on Wikidata
LleoliadBrynbuga Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata

Ymladdwyd y frwydr ger bryn Pwll Melyn, gerllaw Brynbuga yn Sir Fynwy. Arweiniwyd y fyddin Gymreig gan un o 11 o feibion Owain, Gruffudd ab Owain Glyn Dŵr, a byddin Seisnig dan yr Arglwydd Grey o Codnor. Gorchfygwyd y Cymry, a chymerwyd Gruffudd yn garcharor i Monkswood ac oddi yno i Dŵr Llundain ble y bu farw 6 mlynedd yn ddiweddarach. Lladdwyd hefyd brawd Owain, Tudur ap Gruffudd, John ap Hywel, abad Llantarnam a mil a hanner o filwyr Cymreig; bu hyn yn gnoc enfawr i ymgyrch y Cymru dros eu hannibyniaeth. Ildiodd 300 o ddynion i Grey, ond dienyddiwyd y rhan fwyaf ohonynt am eu trafferth, o flaen y castell.[1]

Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru


Castell Brynbuga, ble dienyddiwyd nifer o'r 300 o Gymru a ildiodd wedi'r frwydr

Ymladdwyd y frwydr, yn ôl yr hanesydd J. E. Lloyd[2] a sgwennai yn 1933, ar y tir i'r gogledd o Gastell Brynbuga: ar dir "Fferm y Castell" a Castle Oak Pond sef y 'Pwll Melyn" a roddodd ei enw i'r frwydr.[2] Nododd Lloyd, hefyd, y darganfuwyd nifer o ysgerbydau yn y pwll pan gafodd ei lanhau. Roedd dŵr y llyn yn frown-budur am flynyddoedd, efallai oherwydd y cyrff, a hyn a roddodd iddo'r enw "Melyn", gair yr oes i ddisgrifio'r lliw. Bellach mae'r pwll wedi lleihau oherwydd gwaith draenio. I'r gorllewin o'r pwll y safodd y fyddin Gymreig gan ymosod ar ochr ogleddol y castell.

Llyfryddiaeth golygu

  • J. E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen, Clarendon Press, 1931)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Battles and Campaigns from The Chronicle of Adam of Usk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-01. Cyrchwyd 2016-05-12.
  2. 2.0 2.1 J.E. Lloyd, "The Battle of Pwll Melyn", Archaeologia Cambrensis 88 (1933), tud. 347-8