Tweli Griffiths
Newyddiadurwr o Gymro
Newyddiadurwr yw Tweli Griffiths (ganwyd 1954).
Tweli Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 1954 Pencader |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cynhyrchydd teledu |
Plant | Hywel Griffiths |
Fe'i magwyd ym Mhencader. Fe astudiodd Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y cyfnod yma bu'n is-lywydd ac yna'n llywydd Undeb y Myfyrwyr yn y coleg. Yng ngwanwyn 1977 fe'i benodwyd i'w swydd gyntaf ym myd y cyfryngau fel gohebydd yn y gorllewin ar raglen newyddion teledu Y Dydd.
Bu'n newyddiadurwr a chynhyrchydd ar y rhaglen materion cyfoes Y Byd Ar Bedwar. Gohebodd o sawl gwlad tramor ac yn 1988 cafodd gyfle prin i gyfweliad arweinydd Libia, Cyrnol Gadaffi.[1]
Bywyd personol
golyguMae'n briod a Mair ac yn dad i'r bardd Hywel Griffiths.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 9781784611583, Yn ei Chanol Hi". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ Aberystwyth student wins National Eisteddfod crown (en) , Daily Post, 5 Awst 2008. Cyrchwyd ar 11 Ionawr 2020.