Twnnel Milwr

yng Nghymru

Twnnel ddraenio er mwyn symud dŵr o'r mwngloddiau plwm o dan Mynydd Helygain ydy Twnnel Milwr. Mae'n rhedeg am tua 10 milltir o bentref Cadole, ger Loggerheads, Sir Ddinbych, hyd at Fagillt, Sir y Fflint.

Twnnel Milwr
Mathceuffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.22°N 3.17°W Edit this on Wikidata
Map

Adeiladau

golygu

Plagiwyd yr ardal gan lifogydd yn ystod y 19g ac fe ffurfiwyd Cwmni Tyrchu a Thwnnel Treffynnon-Helygain ym 1896. Roeddent yn gobeithio y gallent ddraenio'r mwnygloddiau'n rhad, drwy ddefnyddio grym disgyrchiant. Sgil-gynnyrch y prosiect oedd agor haenau newydd plwm, yn ogystal â sinc a chalchfaen. Mae'r cyfan yn ymestyn dros gant o gilomedrau ac yn cynnwys system o ogofeydd naturiol.

Nid Twnnel Milwr oedd y cyntaf yn yr ardal. Dechreuwyd ar Dwnnel Helygain ym 1818 gan deulu Grosvenor; estynnwyd yn achlysurol dros y blynyddoedd hyd at bron i bum milltir, a draeniwyd sawl mwynglawdd ganddynt.

Dechreuwyd gwaith ar Dwnnel Milwr ym 1897 o Afon Dyfrdwy ym Magillt, a gyrrwyd y twnnel ar raddiant 1:1000. Roedd angen leinio milltir a hanner cyntaf y twnnel, trwy lo a charreg siâl gyda brics; ar wahân i'r adegau hynny pan roedd yn pasio drwy galchfaen. Erbyn 1908, cyrhaeddodd y twnnel Caeau, dwy filltir o'r afon, ar ffin hawliau mwyn y cwmni. Erbyn hynny, draeniwyd 1.7 miliwn galwyn yn ddyddiol.

Ymestyn

golygu

Gwrthwynebwyd gwaith pellach, yn benodol gan drigolion Treffynnon; pryderant y buasai'r gwaith yn effeithio ar y cyflenwad dŵr, yn arbennig i Ffynnon Santes Gwenffrewi. Caniatawyd estyniad, ond ar 5ed Ionawr, 1917, torrodd y twnnel i lyn tanddaearol, a llifodd deg mil galwyn o ddŵr y munud i'r twnnel. Gostyngodd y lefel trwythiad, a sychodd y ffynnon. Adferwyd y cyflenwad dŵr gan adnewyddiad hen gamlas a adeiladwyd yn y 18g ac ddefnyddir yn wreiddiol i ddraenio dŵr a chludo plwm o hen fwynglawdd. Erbyn 1830, disodlwyd y gamlas gan dramffordd; erbyn heddiw, mae llwybr cyhoeddus yn dilyn hynt y dramffordd. Erbyn 1919, cyrhaeddai'r twnnel bwynt o dan Fynydd Helygain.

Estynnwyd y twnnel yn raddol, gan gyrraedd Olwyn Goch – yn ymyl Hendre – erbyn 1931, ac agorwyd sawl gwythïen newydd. Diswyddwyd mwyafrif y gweithwyr plwm ym 1938 oherwydd gostwng y pris plwm, ond cloddiwyd calchfaen gan Gwmni Pilkington, rhwng 1939 a 1969, gan greu ogofeydd enfawr i'r dwyrain o Hendre.

Defnydd amgen

golygu

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd dŵr o'r twnnel ar safle Rhydymwyn, lle cynhyrchwyd nwy mwstad, ac un o'r llefydd lle dechreuodd ein antur niwclear yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.[angen ffynhonnell] Adeiladwyd rhwydwaith o dramffyrdd ar hyd y twnnel, er mwyn cludo dynion, defnydd a chynnyrch. Defnyddiwyd pŵer batri i yrru'r injans.

Gostyngodd pris plwm ar ôl y rhyfel, ac ailddechreuwyd mwyngloddio ym 1948. Estynnwyd y twnnel i Gadole, yn ymyl Loggerheads, erbyn 1957. Prynwyd y cwmni gan Courtaulds ym 1962 a chynhaliwyd y twnnel er mwyn cyflenwi dŵr i'w ffatri yn Nhreffynnon. Mwyngloddiwyd plwm yn achlysurol hyd at 1977 a chaewyd y twnnel ym 1987.

Heddiw

golygu

Fe'i ailagorwyd ym 1992, pan brynwyd y gwaith gan Ddŵr Cymru, a chyflenwir dŵr o hyd i ddiwydiant Cymru.

Erbyn heddiw, mae'r twnnel yn ddeng milltir o hyd ac mae 23 miliwn galwyn o ddŵr yn llifo trwyddo bob dydd.

Cyfeiriadau

golygu