Tyrcestan

(Ailgyfeiriad o Twrcestan)

Rhanbarth hanesyddol yng Nghanolbarth Asia sy'n gartref i bobloedd Dyrcig yr ardal honno yw Tyrcestan.[1] Ffiniau'r rhanbarth yw Siberia i'r gogledd; Tibet, India, Affganistan, ac Iran i'r de; anialwch y Gobi i'r dwyrain; a Môr Caspia i'r gorllewin. Nid oedd Tyrcestan yn cynnwys yr holl bobloedd Dyrcig, gan yr oedd y Tyrciaid yn byw yng nghyn-Ymerodraeth yr Otomaniaid a'r Tyrco-Tatariaid yn byw ger Afon Volga. Roedd pobloedd eraill yn byw yn Nhyrcestan nad oeddynt yn Dyrcig, megis y Tajiciaid. Rhennir Tyrcestan yn ddau gan fynyddoedd Pamir a Tien Shan. Heddiw mae Gorllewin Tyrcestan yn cynnwys Tyrcmenistan, Wsbecistan, Tajicistan, Cirgistan, a de Casachstan, ac mae Dwyrain Tyrcestan yn cynnwys Xinjiang yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina.[2]

Tyrcestan
Mathrhanbarth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau39.365733°N 67.955584°E Edit this on Wikidata
Map
Map o Dyrcestan gyda ffiniau gwladwriaethau modern.

Cyfeiriadau golygu

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1540 [Turkestan].
  2. (Saesneg) Turkistan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2015.