Hwch â galluoedd goruwchnaturiol y ceir ei hanes mewn un o Drioedd Ynys Prydain yw Henwen.

Ceir ei hanes yn y triawd "Tri Gwrddfeichiad Ynys Prydain" (Tri bugail moch grymus Ynys Prydain). Rhoddwyd Henwen yng ngofal Coll fab Collfrewi, meichiad Dallwyr Dallben (un o gymeriadau llai chwedl Culhwch ac Olwen). Roedd yr hwch yn feichiog ac roedd darogan y byddai Ynys Prydain yn waeth allan pe bai'n rhoi genedigaeth. Pan oedd hi ar fin esgor, aeth ar grwydr yng Nghernyw. Cynulliodd Arthur ei farchogion ac aeth i geisio ei difa cyn iddi esgor. Mewn lle o'r enw Penrhyn Awstin aeth i'r môr gyda Coll ac Arthur a'r lleill yn ei dilyn.

Glaniodd yn ne Cymru. Ym Maes Gwenith (wrth droed Mynydd Llwyd, Gwent) esgorodd ar wenithen a gwenynen. Yn Llonion (Llanion ger Penfro?) yn Nyfed esgorodd ar heidden a gwenithen. Yna troes i'r gogledd a chyrhaeddodd Eryri. Mewn lle o'r enw Rhiw Gyferthwch yn Arfon (ger Beddgelert efallai), esgorodd ar genau blaidd ac eryr. Rhoddwyd y flaidd ifanc i Fenwaedd o Arllechwedd a'r cyw eryr i un Brynach Wyddel. Oddi yno aeth Henwen i'r Maen Du yn Llanfair yn Arfon (Llanfair-is-gaer ar lan Afon Menai, rhwng Caernarfon a'r Felinheli, efallai) lle esgorodd ar gath. Mewn ofn, bwriodd Coll fab Collfrewi y gath honno i'r Fenai, ond goroesoedd a thyfodd i fyny i fod yn Gath Palug, y gath ryfeddol y ceir traddodiadau amdani o Fôn i'r Alpau.

Cefndir

golygu

Yn yr hanes am hela Henwen ceir adlais amlwg o'r chwedl am hela'r Twrch Trwyth yn Culhwch ac Olwen. Mae baeddod a moch fel anifeiliaid arallfydol yn gyffredin ym mytholeg y Celtiaid. Cofier hefyd am y chwedlau llên gwerin am yr Hwch Ddu Gwta. Sylwer ar liw Henwen hefyd: mae gwyn yn lliw a gysylltir ag anifeiliaid y Byd Arall a'r Tylwyth Teg, e.e. Cŵn Annwn.

Mae Henwen yn enw unigryw, ond ceir enghraifft o Henwyn fel enw march (Llyfr Taliesin) a hefyd fel enw dyn, e.e. y sant cynnar Henwyn (Hywyn) fab Gwyndaf Hen o Lydaw, periglor Sant Cadfan.

Cyfeiriadau

golygu

Gweler hefyd

golygu