Twyni Tywod Ynyslas
Lleolir Twyni Tywod Ynyslas yng Ngheredigion, Cymru. Maent yn ffinio Bae Ceredigion ac aber Afon Dyfi (rhwng Ynyslas ac Aberdyfi, Gwynedd. Mae'r twyni (neu'r "tywynnau" hyn) yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.
Math | twyn tywod |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynyslas |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.525°N 4.057°W |
Bywyd gwyllt
golyguMae'r rhywogaethau canlynol i'w canfod yng nghynefin llwm y twyni: madfall Lacerta vivipara, y ffwlbart, cwningod, a llyg. Clywir yr Ehedydd, Corhedydd y Waun (Anthus pratensis) a'r Cwtiad Torchog yn canu uwch y tywod a gwelir sawl math o löyn byw gan gynnwys y Britheg werdd, Gweirlöyn y perthi a gwyfyn o'r enw Teigr ôl-adain goch.[1] [2]
Coedwig y Borth
golyguAr y traeth rhwng y Borth ac Ynyslas, pan fo'r môr ar drai, gellir gweld boncyffion hen goed sy'n profi fod tir yn gorwedd i'r gorllewin yn y gorffennol, cyn iddo gael ei foddi gan y môr ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig. Yn Ionawr 2014, oherwydd y gwyntoedd cryfion dadorchuddiwyd rhagor o'r bonion coed pan gliriwyd llawer o'r tywod; ymhlith y gwahanol fathau o goed roedd: y binwydden, y wernen, y dderwen a'r fedwen. Gorwedda'r bonion hyn mewn mawn. Dyddiwyd y coed drwy garbon-ddyddio a cheir tystiolaeth eu bod rhwng 4,500 a 6,000 oed.[3] Mae'r bonion yn ymestyn am tua dwy filltir a hanner.[4]
Dyma un rheswm, mae'n debyg, am y chwedl gyfarwydd am Gantre'r Gwaelod, a gysylltir ag ardal Aberdyfi sydd ar yr ochr arall i'r afon, i'r gogledd.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "BBC Wales - Twyni Tywod Ynyslas 12 Mawrth 2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-03. Cyrchwyd 2013-12-23.
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru[dolen farw]
- ↑ Gwefan ceredigioncoastalpath.com; Archifwyd 2014-03-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 22 Chwefror 2014.
- ↑ Gwefan y Guardian; adalwyd 22 Chwefror 2014.
Dolennau allanol
golygu- BBC Archifwyd 2012-01-03 yn y Peiriant Wayback
- Y Borth Archifwyd 2013-07-02 yn y Peiriant Wayback