Tyrnog

sant Cymreig o'r 6ed ganrif

Mynach o'r 6g oedd Tyrnog (enw llawn: Tyrnog ap Hawystl Gloff), a brawd Santes Marchell y ceir eglwys iddi ger Dinbych, 3 milltir i'r dwyrain, sef Eglwys Llanfarchell (neu'r 'Eglwys Wen'), Dinbych. Brawd iddo oedd Sant Deifar o Fodfari, gerllaw. Ceir ei enw hefyd yn "Rhos Dyrnog", Darowen, Cyfeiliog, Powys Wenwynwyn. Sant arall gydag enw tebyg yw Twrog. Noda Bonedd y Saint ei fod yn fab i Hawystl Gloff a Tywanwedd ferch Amlawdd Wledig. Ymddengys y cofnod cyntaf ohono fel 'Teyrnog'.

Tyrnog
GanwydTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl4 Ebrill Edit this on Wikidata

Ei wylmabsant yw 4 Ebrill ac ysgrifennwyd enw'r eglwys fel 'Llandernant' a cheir 'Llandeyrnog' cyn 1644, ond ym Peniarth MS 147 fe'i sillefir fel 'Llanddyrnoc' (c.1566) (RWM i.914). Mae'n bosib mai'r un yw Teyrnog a'r Gwyddel Sant Tigernach (St.Tigernach o Clones, neu Cluain Eóis yn y Wyddeleg), sydd a'i wylmabsant hefyd ar yr un dyddiad.[1]

Eglwys Llandyrnog golygu

Cysegrwyd Eglwys Sant Tyrnog er cof amdano, nawddsant y plwyf; saif yng nghalon pentref Llandyrnog, yn Esgobaeth Llanelwy, Sir Ddinbych. Mae'n eglwys Gradd II* o'r 15g, (Rhif cyfeirnod OS: SJ0196665342). Ceir y cofnod cyntaf ohoni yn y Norwich Taxation o 1254.

Mae'r eglwys Ganoloesol hon yn un o bedair eglwys ganoloesol yn Nyffryn Clwyd a chredir fod yr adeilad presennol yn dyddio o'r 15g, ond mae'r fynwent gron yn awgrymu ei bod yn sefydliad hynafol iawn ac o bosibl yn Geltaidd. Adferwyd yr adeilad gan y pensaer Fictoraidd Eden Nesfield rhwng 1876 a 1878 ar gost o tua £3,000.[2] Ar ochr ddwyreniol yr eglwys ceir ffenestr liw nodedig, yr unig un o'i bath yng Nghymru. Ceir y dyddiad 1682 ar un o'r bedd-gistiau yn y fynwent a chloc haul a wnaed yn Nhreffynnon gyda'r dyddiad 1749 arno.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan llgc.org.uk; Welsh Classical Dictionary; adalwyd 28 Mawrth 2017.
  2. cpat.demon.co.uk; Archifwyd 2009-12-31 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 28 Mawrth 2017.
  3. www.walesher1974.org; adalwyd 28 Mawrth 2017.