Agor y brif ddewislen

Darowen

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref chwe milltir i'r gogledd ddwyrain o dref Machynlleth yn ardal Maldwyn, Powys, yw Darowen (neu Dar Owain mewn hen ysgrifau). Yn ôl cyfrifiad 1861 roedd poblogaeth o 1227 ym mhlwyf Darowen, a oedd yn ffinio i'r gogledd-ddwyrain ag Afon Twymyn ac yn y gogledd ag Afon Dyfi. Roedd Darowen yn enwog am ei fwyn ar un adeg. Codwyd llawer o blwm yn yr ardal o bryd i'w gilydd, yn enwedig ym Mwynglawdd Esgair Galed, y Cwm Bychan a Chwm Nant Ddu. Y gweithiau mwyn hyn, a'r gweithiau plwm yn Nylife gynt sydd i gyfrif am boblogaeth ac arwyddocâd y pentref ar y pryd, a thybir mai Derw Owain neu Tref Owain oedd yr enw gwreiddiol. Erbyn hyn, pentref bychan ydyw a'i boblogaeth yn bitw.

Darowen
Math Pentref, Plwyf Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.600431°N 3.730419°W Edit this on Wikidata
Pentref Darowen heddiw

Eglwys y plwyfGolygu

Mae'r eglwys yn y pentref wedi ei chysegru i Tudur, sant o ddiwedd y 6g. Dywedir yn Achau Saint Prydain fod Tudur, fab Arwystli Gloff ab Seithenyn, wedi ei gladdu yma. Yn sicr, mae ffurf y fynwent yn awgrymu bod yr eglwys wreiddiol yn tarddu o'r Oesoedd Canol Cynnar.

 
Yr eglwys yn Narowen sydd wedi ei chysegru i Tudur Sant

Cynhelir ei ŵyl ar y 25ain o Hydref, neu'r Sabath cyntaf wedi hynny. Ynghlwm â'r ŵyl, roedd defod neilltuol, a elwir "Curo Tudur". Arferai bechgyn yr ardal gario postyn, neu gangen ar eu hysgwyddau, tra fyddai trigolion yr ardal yn eu curo â phastynau, er cof, mae'n debyg, am yr erlidigaeth a ddioddefodd y sant.

Sefydlwyd yr eglwys gan yr Esgob Robert Warton, yn y flwyddyn 1545, ar gais y rheithor Rhisiard ap Gruffydd. Arferai'r eglwys fod yn rhan o Esgobaeth Llanelwy, ond yn 1859 newidiwyd hi i fod dan Esgobaeth Bangor. Ymhlith periglorion y plwyf, ceir enwau amryw o ddynion a gafodd enwogrwydd yn yr eglwys, a'r byd llenyddol. Un o'r rhain oedd y Dr. John Davies, Mallwyd a fu'n beriglor y plwyf yn 1615. Roedd yn awdur ar amryw weithiau, yn eu plith, ei Eiriadur Cymraeg a Lladin a'i Ramadeg Cymraeg, ac yn un o gyfieithwyr y Beibl i'r iaith Gymraeg. Daliwyd y reithoriaeth wedi hynny, gan Dr. Randolph, Esgob Rhydychen, a ddyrchafwyd oddi yno i fod yn Esgob Llundain.

Tua 1862-1864, tynwyd hen lan y plwyf i lawr, am fod yr hon a adeiladwyd yn y 14g, wedi mynd mor adfeiliedig mewn blynyddoedd diweddar fel nad oedd hi'n saff mynd mewn iddi. Codwyd eglwys newydd ar bron yr un safle, yn ôl cynlluniad y penseiri J. W. Poundley a D. Walker o Lerpwl, ar draul o £667, ac ynddi le i 202 o bobl i eistedd.

Ym mynwent yr eglwys, mae beddfaen sgwâr; wedi cerfio ar un ochr iddi, mae yna goffadwriaeth am y Parchedig Thomas Richards, a fu'n ficer y plwyf am 37 o flynyddoedd, ac a fu farw yn 1837 yn 83 mlwydd oed. Ar ochr arall, y mae coffadwriaeth am ei wraig, a fu farw yn 1841, yn 84 mlwydd oed. Ac ar yr ochr arall, mae'r coffâd canlynol am eu plant: "Bu iddynt wyth o blant, Richard, Ficer Meifod; David, Ficer Llansilin; Thomas, Rheithor Llangyniew; Mary; John Lloyd, C.P. Llanwddyn; Jane; Elizabeth; a Lewis, Rheithor Llanerfyl; y rhai a gyfodasant y maen hwn, er cof am eu rhïeni hybarch."

Mae cofnodion bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau'r eglwys yn dyddio nol i 1633, a'r cwpan cymun yn yr eglwys, sydd dal ar ddefnydd, i 1575. Ceir cofnod yn un o lyfrau cofnodnion y plwyf, yn ddyddiedig i 1635, fel a ganlyn : "adeiladwyd ficerdy Darowain, gan yr Esgob Robert (Warton), ar ddymuniad Richard ap Griffith, y Rector; yn y flwyddyn 1545." Tynwyd yr hen ficerdy hwn i lawr ym 1849, ac fe adeiladwyd yr un newydd presennol am y swm o £570.

Meini hirionGolygu

Yn ôl traddodiad, galwyd Darowen hefyd, yn Trefddegwm y Noddfa, a'r rheswm am hyn yw fod yr eglwys yn sefyll o fewn trefgordd Noddfa, a fod y “noddfa” yn ddiogelwch i ryw fath o ddrwgweithredwyr yn erbyn cyfreithiau'r wlad. Nodir terfynau'r “noddfa” yn dair ochrog, gan y tri maen hir, dwy ohonynt, sydd dal i'w gweld yn sefyll heddiw; un yn Rhosdyrnog,

 
Y maen hir sydd i'w gweld ar dir Rhosdyrnog

sydd yn mesur chwe troedfedd o uchder wrth bedair ar ddeg o amgylchedd; y llall ar y Cefn Coch Uchaf,

 
Rhai darnau o Garreg Noddfa mewn wal ar fferm Cwmbychan Mawr

yn mesur pum troedfedd o uchder wrth bymtheg o amgylch; a'r trydydd yng Ngwmbychan Mawr. Gelwir y garreg yng Nghwmbychan Mawr yn Carreg Noddfa. Roedd y garreg hon ar un adeg yn faen o gryn faint, ond gwnaethpwyd difrod iddi er mwyn yr elw o gael y deunyddiau i adeiladu; a dim ond pedwar darn ohoni sydd bellach yn aros.

Roedd pellter pob carreg oddeutu milltir o'r eglwys, ac unrhyw un a allai ddianc tu mewn i'r terfynau hyn, cyn i'r erlynydd eu dal yr oedd yn ddiogel rhag cosb. Saif y tri maen hyn yn agos i'r hen bryffyrdd a arweiniau i'r Llan; un o gyfeiriad Llanbrynmair, un arall o Bontdolgadfan, a'r llall o Abercegir. Yn agos i Bengraig, fferm yn y pentref, mae yno lannerch a elwir “Pant y Noddfa”. Mae yno le hefyd a elwir “Bryn y Crogwr,” lle, medd traddodiad, y byddent yn crogi drwgweithredwyr, ynghyd a'r rhai nad oedd â hawl noddfa oherwydd eu trosedd. Ychydig o lefydd a gafodd y fraint o gael “noddfa” gan y Tywosogion, ond cwtogwyd breintiau y noddfeydd hyn, gan gyfreithiau a basiwyd yn amser Harri VIII, ac yn ystod teyrnasiad Iago'r Cyntaf, dilewyd y breintiau hynny'n llwyr.

Olion hynafol eraillGolygu

Tua hanner milltir i'r gorllewin o'r eglwys, ar ben bryn y Fron Goch, yn maenol Noddfa, mae olion hen wersyllfa; ac ar ben un arall, a elwir Bwlch Gelli Las, mae crug, neu garnedd, yn agos i dir y Berllan Deg, ble darganfuwyd hen arfau rhyfel o brês, yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf. Yn agos i Bwlch Gelli Las, ar dir Cefncoch, mae olion tomen, un o gladdfeydd cynfrodorion y wlad. Mae bellach wedi ei chwalu o fewn tair troedfedd i wyneb y ddaear; a'i thraws fesur yn bymtheg a'r hugain o droedfeddi.

Ar Penfrongoch mae olion amddiffynfa, yn mesur oddeutu dau gant ac ugain llath o hyd; a chant a deg llath o led; ac o'i amgylch, mae amryw ffosydd. Ar dir y Castell, mae hen amddiffynfa; ac mae'r enw yn awgrymu hyn. Mae'n debyg fod rhyw fath o furiau cerrig wedi bod o'i hamgylch, a chludwyd llawer ohonynt, i adeiladau y tŷ ffarm a'r adeiladau allan. Mae un ystafell o'r Castell, hon y gellid ei olrhain, yn mesur tair troedfedd ar ddeg o hyd, wrth saith ar hugain o led. Gerllaw amaethdy y “Caerseddfan,” yr hwn a arwydda gorsedd fan, neu lŷs, mae ar y bryn, gaer, a elwir wrth yr enw Caerseddfan. Dywedir mai yma y byddai llŷs yn ymgynnull, ar wahanol amserau, i derfynu dadleuon, ac i roi barn a dedfryd.