Y Tywysog Harri, Dug Sussex
Ail fab y Tywysog Siarl a Diana yw Henry Charles Albert David Mountbatten-Windsor neu'r Tywysog Harri, Dug Sussex (ganwyd 15 Medi 1984). Mae'n frawd i'r Tywysog William. Priododd yr actores Meghan Markle ym Mai 2018.[1]
Y Tywysog Harri, Dug Sussex | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Henry Wales ![]() |
Ganwyd | Prince Henry Charles Albert David of Wales ![]() 15 Medi 1984 ![]() Ysbyty'r Santes Fair ![]() |
Bedyddiwyd | 21 Rhagfyr 1984 ![]() |
Man preswyl | Palas Kensington, Nottingham Cottage, Frogmore Cottage, Toronto, Montecito ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | peilot hofrennydd, swyddog milwrol, noddwr y celfyddydau, chwaraewr polo, dyngarwr ![]() |
Swydd | Counsellor of State ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Finding Freedom, Spare ![]() |
Taldra | 72.5 modfedd ![]() |
Tad | Siarl III ![]() |
Mam | Diana, Tywysoges Cymru ![]() |
Priod | Meghan Markle ![]() |
Partner | Chelsy Davy, Cressida Bonas ![]() |
Plant | Archie Mountbatten-Windsor, Lilibet Mountbatten-Windsor ![]() |
Perthnasau | Laura Lopes, Tom Parker Bowles ![]() |
Llinach | Tŷ Windsor ![]() |
Gwobr/au | Marchog-Cadlywydd Urdd Brenhinol Fictoraidd, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Urdd Isabel la Católica, Operational Service Medal for Afghanistan, aelod anrhydeddus, Gwobr Time 100 ![]() |
Gwefan | http://sussexroyal.com ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Fe'i addysgwyd mewn ysgolion yn Lloegr a treuliodd gyfnodau o'i flwyddyn bwlch yn Awstralia a Lesotho. Yna cafodd hyfforddiant swyddog yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Fe'i benodwyd yn gornet (sef ail is-gapten) yn y Blues a Royals, gan wasanaethau dros dro gyda'i frawd Y Tywysog William, a cwblhaodd ei hyfforddiant fel arweinydd milwyr. Yn 2007-2008 gwasanaethodd am dros ddeg wythnos yn Helmand, Affganistan, ond tynnodd allan ar ôl i gylchgrawn Awstralaidd ddatgelu ei bresenoldeb yna. Dychweloddi Affganistan am gyfnod o 20 wythnos yn 2012-13 gyda Corfflu Awyr y Fyddin. Gadawodd y fyddin yn Mehefin 2015.
HelyntionGolygu
Ffrae'r wisg ffansi NatsïaiddGolygu
Yn Ionawr 2005, mewn parti gwisg ffansi gyda'r thema "Trefedigaethwyr a Brodorion", gwisgodd y Tywysog Harri band braich swastika ac iwnifform Natsïaidd, gan godi ymateb beirniadol iawn[2] ac achosi cryn embaras i'w deulu. Yn ddiweddarach, rhyddhawyd cyhoeddiad ar ei ran yn ymddiheuro am y weithred, ond roedd ei amharodrwydd i ymddiheuro'n bersonol yn cythruddo nifer o grwpiau gwrth-hiliaeth ac unigolion. Cafodd ei feirniadu am wneud sbort ar ben mater difrifol a brifo teimladau teuluoedd pobl a ddioddfefasant dan y Natsïaid. Ond bu rhai o gefnogwyr y teulu brenhinol yn barod i esgusodi'r tywysog[3]
Ffrae saethu'r adar prinGolygu
Yn Hydref 2007, wynebodd Harri gyhuddiadau o saethu dau aderyn prin tra yn Sandringham[4]. Gwelodd dau gerddwr a warden gwarchodfa natur cyfagos ddau foda tinwyn yn cael eu "blastio o'r awyr" ar 24 Hydref, ond oherwydd y coed nid oeddynt yn medru gweld pwy yn union a'u saethodd. Mae bodau tinwyn ymhlith yr adar prinaf ym Mhrydain; dim ond 20 sy'n byw yn Lloegr felly collwyd 10% o stoc bridio'r adar yn y wlad honno. Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB fod yr honiadau gan lygad-dystion mai Harri a'i ffrind a fu'n gyfrifol am y saethu yn "gredadwy". Fodd bynnag, penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â ffurfio cyhuddiadau, penderfyniad sydd wedi cythruddo naturiaethwyr.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Tywysog Harry i briodi Meghan Markle , Golwg360, 27 Tachwedd 2017. Cyrchwyd ar 8 Rhagfyr 2017.
- ↑ Harri yn ymddiheuro'n gyhoeddus am wisgo i fyny fel Natsi BBC News, 13 Ionawr, 2005
- ↑ Harry public apology 'not needed' BBC News, 14 Ionawr, 2005
- ↑ "Prince Harry quizzed by police about shooting of rare birds" 31 Hydref 2007 The Guardian