Ulisse Aldrovandi

Naturiaethwr a meddyg o'r Eidal oedd Ulisse Aldrovandi (11 Medi 15224 Mai 1605) a oedd yn un o'r ysgolheigion cyntaf yng nghyfnod y Dadeni Dysg i arsylwi'n fanwl ar nodweddion anifeiliaid, planhigion, a mwynau a thrin y wybodaeth hynny mewn modd systematig.

Ulisse Aldrovandi
Portread o Ulisse Aldrovandri gan Agostino Carracci
Ganwyd11 Medi 1522 Edit this on Wikidata
Bologna Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mai 1605 Edit this on Wikidata
Bologna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTaleithiau'r Babaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpryfetegwr, naturiaethydd, botanegydd, adaregydd, swolegydd, arlunydd, meddyg, addysgwr, academydd, daearegwr Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amMonstrorum historia Edit this on Wikidata
LlinachAldrovandi Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Bologna, Taleithiau'r Babaeth, i deulu bonheddig; notari oedd ei dad, Teseo Aldrovandi, a wasanaethodd yn ysgrifennydd Senedd Bologna, ac yr oedd ei fam, Veronica Marescalchi, yn gyfnither i Ugo Boncompagni, a fyddai'n cael ei ethol yn Bab Grigor XIII ym 1572.[1] Astudiodd fathemateg, Lladin, athroniaeth, a'r gyfraith ym Mhrifysgol Bologna. Tua 1545 aeth i Brifysgol Padova i barhau yn ei efrydiau. Pan ddychwelodd i Bologna ym 1549, cafodd ei arestio ar gyhuddiad o heresi a'i alw i Rufain i ateb y Chwilys. Yno fe lwyddodd i ryddhau ei hun o fai, yn debyg oherwydd safle ei deulu. Yn ystod ei amser yn Rhufain, daeth Aldrovandi yn gyfarwydd â cherfluniaeth y ddinas—pwnc ei draethawd Le antichità della città di Roma (1556)—a chyfarfu â'r naturiaethwr o Ffrancwr Guillaume Rondelet.[2]

Dychwelodd Aldrovandi i'w ddinas enedigol i astudio meddygaeth yn ei hen brifysgol, a derbyniodd ei radd feddygol ym 1553.[2] Er nad aeth yn feddyg, ymunodd Aldrovandi â chyfadran feddygol Prifysgol Bologna i addysgu'r to iau. Gyda'i gyflog, aeth ar grwydr drwy'r Eidal yn casglu esiamplau o anifeiliaid, planhigion, ffosilod, a mwynau, yn aml gyda'i gyd-academyddion a myfyrwyr o Bologna. Darlithiodd ar hanes llysiau rhinweddol, a sefydlodd ardd fotaneg yn y brifysgol. Fel athro poblogaidd a churadur yr ardd, ymestynodd gorchwyl Aldrovandi i gynnwys holl feysydd byd natur, a denodd niferoedd mawr o fyfyrwyr i'w ddarlithoedd bywiog a diddorol. Fe'i penodwyd yn athro llawn ym maes y gwyddorau naturiol gan Brifysgol Bologna ym 1561.[3]

Yn ogystal â'i waith yn y brifysgol, cydnabuwyd Aldrovandi yn awdurdod ar ffarmacoleg a glanweithdra cyhoeddus gan lywodraeth ddinesig Bologna. Er i ambell un gwrthwynebu'r cynnig i benodi Aldrovandi yn arolygydd cyffuriau a fferyllfaoedd, fe'i cadarnhawyd yn y swydd honno gan y Pab Grigor XIII, cefnder ei fam. Aeth ati i gyflawni'r cyffurlyfr swyddogol Antidotarii Bononiensis Epitome (1574), sydd yn disgrifio elfennau a phriodweddau meddyginiaethau. Cefnogodd y Pab Grigor hefyd waith Aldrovandi am fyd natur—mamaliaid, adar, ymlusgiaid, pysgod, ac infertebratau—a rhoes iddo gymorth ariannol i argraffu sawl traethawd gydag engrafiadau plât copr, gan gynnwys ei astudiaethau manwl o gyfnod deor embryo y cyw iâr yn yr wy. Cyhoeddwyd pedair cyfrol o'r gwyddoniadur yn ystod ei oes, a'r deg yn weddill wedi ei farwolaeth gan ei fyfyrwyr ar sail ei lawysgrifau. Bu farw yn Bologna yn 82 oed. Gwaddolodd ei ddinas enedigol â'i amgueddfa o sbesimenau biolegol, a chyfrannai'r casgliad hwnnw at ddatblygiad tacsonomeg anifeiliaid yn yr oes wedi ei farwolaeth. Byddai gwyddoniadur byd natur Aldrovandi yn waith awdurdodol ar draws Ewrop nes iddo gael ei olynu gan yr Histoire Naturelle (1749–1804) gan Georges Buffon.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Carlo Castellani, "Aldrovandi, Ulisse" yn Complete Dictionary of Scientific Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 6 Awst 2022.
  2. 2.0 2.1 Paula Findlen, "Aldrovandi, Ulisse (1522–1605)" yn Europe 1450 to 1789: Encyclopedia of the Early Modern World, cyfrol 1, golygwyd gan Jonathan Dewald (Efrog Newydd: Charles Scribner's Sons, 2004), tt. 35–37.
  3. (Saesneg) Ulisse Aldrovandi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Awst 2022.