Guillaume Rondelet
Naturiaethwr a meddyg o Ffrainc yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Guillaume Rondelet (27 Medi 1507 – 30 Gorffennaf 1566).
Guillaume Rondelet | |
---|---|
Portread o Guillaume Rondelet (1545) | |
Ganwyd | 27 Medi 1507 Montpellier |
Bu farw | 30 Gorffennaf 1566 o dysentri Réalmont |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | botanegydd, meddyg, pysgodegydd, academydd, anatomydd |
Cyflogwr |
Ganed ef ym Montpellier, Teyrnas Ffrainc, ac astudiodd ym mhrifysgolion Montpellier a Pharis. Fe'i penodwyd yn athro anatomeg ym Mhrifysgol Montpellier, a gwasanaethodd hefyd yn feddyg i gardinal. Bu farw yn Réalmont yn 58 oed.[1]
Cyfrannai Rondelet yn sylweddol at ddatblygiad swoleg fodern, yn enwedig pysgodeg a bioleg fôr. Mae ei lyfr Libri de Piscibus Marinis (1554–55) yn cynnwys disgrifiadau manwl o ryw 250 o anifeiliaid y Môr Canoldir, gan gynnwys pysgod, morfilod, morloi, ac infertebratau. Ysgrifennodd hefyd draethodau meddygol am y dwymyn, diagnosis, a fferylliaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Guillaume Rondelet. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Awst 2022.
Dolenni allanol
golygu- (Lladin) Testun Libri de Piscibus Marinus ar wefan archive.org