Ulo
Un o seintiau cynnar Cymru oedd Ulo (neu Iulo). Ychydig iawn sy'n hysbys amdano.
Ulo | |
---|---|
Man preswyl | Ynys Môn, Dwygyfylchi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Hanes a thraddodiad
golyguMae'n bosibl mai Cymreigiad o'r enw personol Lladin Julius yw Ulo (trwy Iulo). Ceir sant adnabyddus o'r enw Julian (neu Julius) a ferthyrwyd yng Nghaerleon tua'r flwyddyn 304 OC. Ond mae'r eglwysi a lleoedd eraill a gysylltir â fo i gyd yn ne Cymru. Yn ogystal ni cheir enghraifft o'r ffurf Ulo yn y lleoedd hynny.[1]
Cysylltir Sant Ulo â thri llecyn yng ngogledd-orllewin Cymru. Ar Ynys Môn ceir yr enw 'Capel Ulo' ar fferm ger Caergybi ond nid oes unrhyw olion hynafol i'w gweld yno heddiw. Gerllaw y fferm roedd 'Ffynnon Ulo' i'w cael ar un adeg.[1] 'Capelulo' yw'r enw amgen am bentref Dwygyfylchi, rhwng Penmaenmawr a thref Chonwy. Nid oes olion capel yno heddiw ond roedd y gair 'capel' yn gallu golygu "cell feudwy" yn yr hen oesoedd; adeilad syml o bren fyddai fel rheol.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru.