Diwygiwr crefyddol o'r Swistir oedd Ulrich Zwingli (hefyd Huldrych Zwingli neu Huldreich Zwingli yn Almaeneg ; Ulricus Zuinglius yn Lladin) (1 Ionawr 148411 Hydref 1531). Ef oedd arweinydd y Diwygiad Protestannaidd yn y Swistir a sefydlwr Eglwysi Diwygiedig y Swistir. Daeth Zwingli i gasgliadau diwinyddol tebyg i rai ei gyfoeswr Martin Luther, ond gyda rhai gwahaniaethau pwysig, trwy astudio'r Ysgrythurau Cristnogol o safbwynt ysgolhaig dyneiddol. Yn ogystal, roedd yn wladgarwr Swisaidd pybyr.

Ulrich Zwingli
GanwydUlrich Zwingli Edit this on Wikidata
1 Ionawr 1484 Edit this on Wikidata
Wildhaus Edit this on Wikidata
Bu farw11 Hydref 1531 Edit this on Wikidata
Kappel am Albis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethOld Swiss Confederacy Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, cyfieithydd, offeiriad, diwygiwr Protestannaidd, llenor, pregethwr Edit this on Wikidata
SwyddAntistes Edit this on Wikidata
PriodAnna Reinhart Edit this on Wikidata
PlantRegula Gwalther-Zwingli, Wilhelm Zwingli, Huldrich Zwingli, Anna Zwingli Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Zwingli yn Wildhaus yng nghanton St. Gallen ar ddechrau 1484. Astudiodd yn Bern, Fienna a Basel a daeth yn offeiriad yn Glarus yn 1506. Treuliodd ddau gyfnod fel caplan i filwyr hur Glarus yn y rhyfel yn yr Eidal (1513, 1515). Dychwelodd i'r Swistir lle cafodd bywiolaeth yn Einsiedeln. Roedd y dref yn enwog fel cyrchfan pererindod i weld y Forwyn Ddu (delw o'r Forwyn Fair) a daeth Zwingli i ddirmygu'r "ofergoeledd" hynny.[1]

Symudodd i ddinas Zürich lle cafodd ei ethol yn bregethwr yn eglwys y Grossmünster. Yn ogystal â phregethu'r Efengyl, llwyddodd i berswadio gwŷr Zurich i beidio cymryd rhan yng nghynghrair y cantonau eraill gyda Ffrainc. Yn 1523 mabwysiadodd cyngor Zürich 67 Pwynt Zwingli; carreg filltir yn hanes y Diwygiad yn y Swistir ac Ewrop gyfan. Dros y blynyddoedd nesaf gwnaeth sawl diwygiad yn cynnwys hebgor y sagrafen.[1]

Yn 1529 bu yng nghynhadledd Marburg ac anghytunodd â Luther ynghylch natur y sagrafen. Arweiniodd hyn yn nes ymlaen at rwyg sylfaenol yn yr eglwysi Protestannaidd. Ond roedd cantonau eraill yn y Swistir, Cantonau'r Goedwig, yn elyniaethus tuag at Zwingli a Zürich a ffurfwyd cynghrair yn eu herbyn. Datganodd Zürich ryfel yn 1529 ar ôl i un o bregethwyr y ddinas gael ei losgi'n fyw ar ôl cael ei ddal ar dir niwtral. Yn Hydref 1531 ymosododd Cantonau'r Goedwig ar Zürich yn ddirybudd. Trechwyd gwŷr Zürich a lladdwyd Zwingli ei hun yn y frwydr i amddiffyn y ddinas.[1]

Cyfeirir at ei ddysgeidiaeth fel Zwinglïaeth ('Zwinglïaidd' yw'r gair olaf a restrir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru).[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Chamber's Biographical Dictionary.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol IV, tud. 3872.