Völkerabfälle

Diffiniad Friedrich Engels o bobl adweithiol nad oedd yn ddigon 'datblygiedig' i gynnal cwyldro dosbarth ac na allau na haeddau fodoli fel cymuned genedlaethol

Mae Völkerabfälle (sillafiad heb y didolnod: Voelkerabfaelle) yn derm a ddefnyddir gan yr athronydd Almaeneg, Friedrich Engels, i ddisgrifio cenhedloedd bychain neu'n gwehil-bobl a ddylid ildio i gymdogion (neu ddiwylliant/iaith/politi) mwy pwerus yn y broses hanesyddol o ddatblygiad cymdeithasol. Ystyriai Engels bod y bobloedd yma, Völkerabfälle, yn dueddol o fod, yn eu hanfod trwy eu iaith neu diwylliant, yn “gynhalwyr ffanatig baner y gwrth-chwyldro".[1] Er na wnaeth Engels enw'r Cymry yn un o'r bobloedd hyn, gellid priodoli peth o'r athroniaeth ac agwedd (os nad rhagfarn) yma i'w ddefnyddio ar draul dyheadau a bobolaeth Cymru fel wlad a phobl ar wahân.[2]

Data cyffredinol

Cyfieithu'r TermGolygu

Ceir trafodaeth ar sut mae cyfieithu a deall ystyr y term, Voelkerabfaelle. Mae'r hanesydd Saesneg, Watson, yn ei gyfieithu fel "racial trash". Gwelir eraill yn cyfieithu'r gair Almaeneg, "abfaelle", fel "residue", felly "national residue" neu residue of nations"; "gwaddod",[3] "gwaddod o bobloedd" hynny yw, y bobl sydd wedi eu gadael ar ôl neu sydd o ddim gwerth. Mae Watson yn dadlau bod y term yn golygu "sbwriel-hil" neu "hiloedd sbwriel",[4] gyda'r cysyniad bwriadus nad oes gwerth i hunaniaeth na bodolaeth y bobloedd yma ynddo'i hunain a dim ond wrth cael eu hymgorffori i genedloedd a gwladwriaethau neu trwy ddiosg eu hunaniaeth, iaith a diwylliant, y mae modd iddynt symud i gam nesa datblygiad ymwybyddiaeth dosbarth a datblygiad technegol ac addysgiedig soffistigedig, wyddonol.

Gwaddod-BoblGolygu

Roedd Engels yn cynnig sawl cenedl fel enghreifftiau o'r "sbwriel bobloedd":[1]. Dyma oedd y bobl oedd dau gam gan nad ydynt wedi cyrraedd safle cymdeithasol gyfalafol hyd yn oed ac felly methu ymuno, fel cymdeithas genedlaethol, yn yr "ymrafael hanesyddol" (i oresgyn cyfalafiaeth).[4]

y Jacobiaid : " Y cyfryw, yn Yr Alban, yw y Gaeliaid, cefnogwyr y Stiwartiaid o 1640 hyd 1745."
y Chouannerie : " Y fath, yn Ffrainc, yw y Llydawiaid, cefnogwyr y Bourboniaid o 1792 hyd 1800."
y Rhyfel Carlist Cyntaf: "Y cyfryw, yn Sbaen, yw'r Basgiaid, cefnogwyr Don Carlos."

Roedd Engels hefyd yn cyfeirio'n benodol at wrthryfel y Serbiaid 1848-49, pan ymladdodd Serbiaid o Vojvodina yn erbyn y chwyldro Hwngari a fu'n fuddugol yn flaenorol. Gorffennodd Engels yr erthygl gyda'r rhagfynegiad canlynol:

Ond yn ystod gwrthryfel buddugol cyntaf y proletariat Ffrengig, y mae Louis Napoleon yn ymdrechu â'i holl nerth i'w gonsurio, bydd yr Almaenwyr a'r Magyars Awstria yn cael eu rhyddhau ac yn dial gwaedlyd ar y barbariaid Slafaidd. Bydd y rhyfel cyffredinol a fydd wedyn yn torri allan yn chwalu'r Sonderbund Slafaidd hwn ac yn dileu'r holl genhedloedd cudd hyn i gyd, i lawr i'w hunion enwau. Bydd y rhyfel byd nesaf yn arwain at ddiflaniad o wyneb y ddaear nid yn unig o ddosbarthiadau adweithiol a dynasties, ond hefyd pobloedd adweithiol cyfan. Ac mae hynny, hefyd, yn gam ymlaen.

BeirniadaethGolygu

 
Tudalen flaen y Neue Rheinische Zeitung, papur a gyhoeddodd erthygl Engels, 19 Mehefin 1848

Beirniadwyd safbwyntiau Engels gan y sosialydd blaenllaw Karl Kautsky a ddadleuodd ym 1915 fod Slafiaid De Tsiec ac Awstria wedi trawsnewid eu hunain mewn modd a oedd yn ymarferol yn gwrthbrofi barn Marx ac Engels. Gan gyfeirio at Heinrich Cunow ysgrifennodd:

Heddiw, pan fydd y bobl hynny wedi cyflawni cymaint o bŵer ac arwyddocâd i gyfeirio atynt yn yr hen dermau Marcsaidd 1848/9, mae'n ymddangos yn anffodus iawn. Pe bai rhywun heddiw yn dal i ddal gafael ar y safbwynt hwnnw mae ganddo lawer i'w ddad-ddysgu.[5] Mae Roman Rozdolsky yn dadansoddi safle Engels yn ei lyfr Engels and the "Nonhistoric" Peoples: the National Question in the Revolution of 1848.

Mae dwy ffordd i edrych ar Karl Marx ac Engels: fel crewyr dull gwyddonol gwych, ond yn ei hanfod dyfnaf; neu fel tadau eglwysig o ryw fath, ffigyrau efydd cofgolofn. Ni fydd y rhai sydd â'r weledigaeth olaf wedi canfod yr astudiaeth hon at eu dant. Mae'n well gennym, fodd bynnag, eu gweld fel yr oeddent mewn gwirionedd.

Mae Rosdolsky yn archwilio safbwynt Engels yn fanwl. Roedd Marx ac Engels wedi cefnogi chwyldro 1848 a oedd wedi lledaenu ledled Ewrop. Roeddent yn gweld hyn fel cam cyntaf angenrheidiol tuag at y chwyldro Sosialaidd, y gobeithid ei fod ar fin digwydd. Fodd bynnag, ymgasglodd grymoedd yr adwaith yn Awstria Klemens von Metternich ym mis Hydref 1848 pan gafodd Gwrthryfel Fienna ei atal yn greulon. Anogwyd Engels i ysgrifennu ei erthygl oherwydd bod Slafiaid Awstria wedi gwrthod y cyfle i ryddhau eu hunain o reolaeth ormesol yr Habsburgiaid, yn ogystal â'u cofleidiad brwd o wrth-chwyldro Metternich.[6]

Dywedodd Andrzej Walicki yn ei ddadansoddiad o safiad Engel yn ei lyfr Marxism and the Leap to the Kingdom of Freedom: The Rise and Fall of the Communist Utopia:

Ni phetrusodd Engels ddweud bod cenhedloedd cyfan yn adweithiol, mai dyma y trodd cenhedloedd Slafaidd brenhiniaeth Habsburg allan i fod, a bod eu gwrthwynebiad i'r chwyldro Almaeneg-Hwngari yn eu cymhwyso i gael eu difodi'n llwyr.

a daeth i'r casgliad ei bod yn anodd gwadu ei fod yn cyfreithloni'r polisi o hil-laddiad a chyfiawnhad oedd tybio iddynt ddylanwadu ar syniadau Hitler, a brofodd gyfnod o ddiddordeb mewn Marcsiaeth yn ei ieuenctid.[7]

Term Engels yn gynsail deallusol i NatsïaiethGolygu

Dadansoddwyd y darn olaf hwn, sef paragraff olaf erthygl Engels ym 1849, gan yr awdur Prydeinig, yr hanesydd llenyddol ac actifydd y blaid Ryddfrydol, George Watson, a ddaeth i'r casgliad mai Marcsydd oedd Hitler.[8] Roedd yr agweddau a fynegwyd yn y paragraff hwnnw yn eithaf normal ar gyfer eu hamser.[9]

Sail ddeallusol i Hil-laddiadGolygu

Dadleua Watson bod y term a meddylfryd tu ôl Völkerabfälle yn sail ar gyfer hil-laddiad y bu i'r Natsïaid weithredu bron ganrif wedi erthygl, The Magyar Struggle gan Engels yn y Neue Rheinische Zeitung ar 13 Ionawr 1849:

"Ymhlith holl genhedloedd ac is-genhedloedd Awstria (Ymerodraeth Awstria-Hwngari), dim ond tri o gludwyr safonol cynnydd a gymerodd ran weithredol mewn hanes, ac maent yn dal i allu byw - yr Almaenwyr, y Pwyliaid a'r Magyariaid (Hwngari). Felly maent bellach yn chwyldroadol. Mae'r holl genhedloedd a phobloedd mawr a bach eraill wedi'u tynghedu i'w ddifetha cyn hir yn yr holocost chwyldroadol. Am y rheswm hwnnw maen nhw bellach yn wrth-chwyldroadol [...] Mae'r darnau gweddilliol hyn o bobloedd bob amser yn dod cludwyr safonol gwrth-chwyldro ac aros felly nes iddynt gael eu difa'n llwyr neu golli eu cymeriad cenedlaethol [...] Bydd rhyfel cyffredinol yn dileu'r holl sbwriel-genedl/hil ("racial trash") hyn [dyma un gyfieithiad o völkerabfälle] i lawr i'w hunion enwau. Y rhyfel byd nesaf yn arwain at ddiflaniad o wyneb y ddaear nid yn unig o ddosbarthiadau adweithiol a theyrnasoedd brenhinol (dynasties), ond hefyd pobloedd cyfan adweithiol. Ac mae hynny, hefyd, yn gam ymlaen."

[10]

DolenniGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Engels, Frederick (1849). "Magyar Struggle". Neue Rheinsiche Zeitung (194). http://www.marxistsfr.org/archive/marx/works/1849/01/13.htm. Adalwyd 14 July 2018.
  2. SiônJobbins (2022-02-06). Twitter https://twitter.com/SionJobbins/status/1490323507644882944. Mae'n ffurf Anglo-Brydeinig ar Völkerabfälle - bod y Gymraeg yn iaith 'sbwriel-genedl'. One of the streams for this is Engels's Völkerabfälle - rubbish/residue/garbage nations theory. Missing or empty |title= (help)
  3. [Termau Cymru http://termau.cymru/#residue]
  4. 4.0 4.1 {{[Karl Marx-Racist And The Ancestor Of Modern Genocide https://www.youtube.com/watch?v=ueyJlEaYUzU]}}
  5. Herod, N. A. (2013). The Nation in the History of Marxian Thought: The Concept of Nations with History and Nations without History (yn Saesneg). Springer Science & Business Media. ISBN 9789401747547. Cyrchwyd 15 July 2018.
  6. Clarkson, Andy. "Reviews – Engels and the 'Nonhistoric' Peoples". www.marxists.org. Cyrchwyd 15 July 2018.
  7. Walicki, Andrzej (1995). Marxism and the Leap to the Kingdom of Freedom: The Rise and Fall of the Communist Utopia (yn Saesneg). Stanford University Press. ISBN 9780804731645. Cyrchwyd 7 January 2021.
  8. Watson, George (22 November 1998). "Hitler and the Socialist Dream". The Independent. Cyrchwyd 15 July 2018.
  9. Robert Grant. The Lost Literature of Socialism by George Watson. The Review of English Studies, Nov., 1999, Vol. 50, No. 200 (Nov., 1999), pp. 557-559. Published by: Oxford University Press. Stable URL: https://www.jstor.org/stable/517431
  10. Cyfieithiad i'r Saesneg yn Karl Marx, The Revolutions of 1848, Political Writings Vol. 1 Llundain, Penguin Books, 1973


  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.