Chwyldroadwr a therfysgwr (yn ôl rhai) o Rwsia oedd Vera Figner (Rwsieg: Ве́ра Никола́евна Фи́гнер Фили́ппова; 25 Mehefin 1852 - 15 Mehefin 1942) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gweithredydd gwleidyddol, bywgraffydd, cofiannydd, a gwleidydd.

Vera Figner
Ganwyd25 Mehefin 1852 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Kazan’ Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Prifysgol Zurich
  • Sefydliad Kazan Rodionovsky Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweithredydd gwleidyddol, bywgraffydd, cofiannydd, llenor, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gynulliad Cyfansoddol Rwsia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNarodnaya Volya, Plaid y Chwyldro Sosialaidd Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Llywodraethiaeth Kazan, Ymerodraeth Rwsia a bu farw yn Moscfa o niwmonia; fe'i claddwyd ym Mynwent Novodevichy. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Zurich a Sefydliad Kazan Rodionovsky. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o 'Narodnaya Volya' a Phlaid y Chwyldro Sosialaidd. Hanai ei theulu o'r Almaen ac o Rwsia.[1][2][3]

Yn arweinydd y grŵp cudd, chwyldroadol, Narodnaya Volya (Ewyllys y Bobl), a oedd o blaid defnyddio terfysgaeth i ddymchwel y llywodraeth, cyd-gynllwyniodd lofruddiaeth lwyddiannus Alexander II ym 1881. Arestiwyd Figner a threuliodd 20 mis tan glo, ar ei phen ei hun cyn y cafodd ei rhoi ar brawf, lle dedfrydwyd hi i farwolaeth. Cymudwyd y ddedfryd wedi hynny a charcharwyd Figner yng nghaer Shlisselburg am 20 mlynedd cyn cael ei hanfon i alltudiaeth.

Daeth Figner yn hynod o boblogaidd yn rhyngwladol, yn bennaf oherwydd ei chofiant, lle rhannodd ei phrofiadau a gyfieithwyd yn eang. Cafodd ei thrin fel eicon arwrol o aberth chwyldroadol ar ôl Fevrálʹskaya revolyútsiya (Chwyldro Chwefror) ym 1917 ac roedd yn siaradwr cyhoeddus poblogaidd yn ystod y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach daeth Figner yn amlwg yng 'Nghymdeithas y Cyn-Garcharorion Gwleidyddol ac Alltud yn yr Undeb Sofietaidd' nes iddo gael ei ddiddymu ym 1935.

Llwyddodd Figner i oroesi 'Terfysgaeth Fawr' 1937 a bu farw o achosion naturiol ym Moscfa ym 1942 yn 89 oed.

Vigner yn 1930

Magwraeth

golygu

Ganwyd Vera Figner ar 7 Gorffennaf 1852, yr hynaf o chwech o blant Nikolai Alexandrovich Figner a'i wraig, Ekaterina Khristoforovna Kuprianova; roedd y ddau'n aelodau o uchelwyr hynafol Rwsia.[4] Roedd y teulu'n berchen ar ymhell dros fil o erwau, a weithiwyd gan y werin bobl (y serfs) a oedd mewn cyflwr lled-gaethwasiaeth tan 1861. Gwasanaethodd ei thad yng ngwasanaeth coedwigaeth y wladwriaeth, gan ymddiswyddo o'r swydd honno i ddod yn swyddog gweinyddol lleol gyda'r teitl "cyfryngwr heddwch". Roedd hi'n chwaer i Lidija Figner.[5]

Ym 1863, yn un ar ddeg oed, anfonwyd Figner i Sefydliad Rodionovsky ar gyfer Merched Nobl yn ninas Kazan, a fynychodd am y chwe blynedd nesaf. Fel un o ddim ond chwe dinas yn holl Ymerodraeth Rwseg i gynnal prifysgol, roedd prifddinas daleithiol Kazan yn ddinas a oedd yn fwrlwm o ddiwylliant a syniadau newydd.[6] Er gwaethaf trefn ddeallusol fygythiol yr athrofa, ehangodd Figner ei gorwelion deallusol trwy ddarllen llyfrau gwaharddedig a gafodd yn ystod ymweliadau byr â'i chartref. Profodd i fod yn fyfyriwr rhagorol, gan gymryd diddordeb arbennig mewn hanes a llenyddiaeth, a derbyniodd y wobr a roddwyd i'r perfformiwr academaidd gorau ar ôl iddi raddio ym 1869.[7]

Priodi

golygu

Dymunai Figner astudio meddygaeth, ond ni chaniateid hyn yn Rwsia i ferched, yn dilyn cau Academi Feddygol-Llawfeddygol St Petersburg, yn nechrau'r 1860au.[8] Golygai hyn gadael Rwsia i astudio dramor, a throdd Vera Figner ei gobeithion tuag at Brifysgol Zurich, a oedd yn derbyn menywod o Rwsia. Gwaharddwyd Figner gan ei thad rhag mynd, felly fe briododd Alexei Filippov, arbed arian a gwerthu ei gwaddol, a theithiodd i Zurich.[9]

Rhwng 1872 a 1875, roedd hi'n fyfyriwr yn yr Adran Feddygaeth ym Mhrifysgol Zurich. Ym 1873, ymunodd Figner â chylch Fritsche, a oedd yn cynnwys tair ar ddeg o ferched radical Rwsiaidd, ifanc, y byddai rhai ohonynt yn dod yn aelodau pwysig o'r Sefydliad Chwyldroadol Cymdeithasol All-Rwsiaidd.

Anrhydeddau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 19 Gorffennaf 2024.
  3. Dyddiad marw: А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 http://www.britannica.com/biography/Vera-Nikolayevna-Figner. dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017. dynodwr Encyclopædia Britannica Online: biography/Vera-Nikolayevna-Figner. "Vera Figner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Vera Figner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Wera Nikolajewna Figner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Lynne Ann Hartnett, The Defiant Life of Vera Figner: Surviving the Russian Revolution. Bloomington, IN: Indiana University Press, 2014; t. 2.
  5. Hartnett, The Defiant Life of Vera Figner, t. 7.
  6. Hartnett, The Defiant Life of Vera Figner, pp. 17-19.
  7. Hartnett, The Defiant Life of Vera Figner, t 20.
  8. Hartnett, The Defiant Life of Vera Figner, t. 29.
  9. Barbara A. Engel and Clifford N. Rosenthal (gol.), Five Sisters: Women Against the Tsar. Routledge, 1975; t. ???.