Sildenaffil
Mae sildenaffil, sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Viagra ymysg eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir yn benaf i drin anawsterau wrth gael codiad.[1]
Fiagra | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 474.20492444 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₂h₃₀n₆o₄s |
Enw WHO | Sildenafil |
Clefydau i'w trin | Vasculogenic impotence, gordyndra ar yr ysgyfaint, anallu |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia b1, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
Yn cynnwys | carbon, nitrogen, ocsigen, sylffwr, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnydd
golyguMae sildenaffil yn cael ei ddefnyddio gan ddynion sy'n cael anhawster i gael codiad i wella eu siawns o galedu eu pidynau er mwyn cael cyfathrach rywiol. Dydy'r cyffur ddim yn achosi codiad yn benodol, ond mae'n rhwystro'r cyhyrau llawn waed yn y pidyn rhag ymlacio. Does dim angen cymryd y feddyginiaeth yn rheolaidd, dim ond cyn cael cyfathrach rywiol. Fel arfer bydd raid disgwyl rhwng hanner awr i awr wedi cymryd y bilsen a bod yn barod am gyfathrach; ond wedi dêt sy'n cynnwys pryd o fwyd llawn braster hwyrach bydd angen disgwyl yn hirach gan fod braster yn effeithio ar hyd yr amser cyn fo'r cyffur yn gweithio[2].
Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₂H₃₀N₆O₄S. Mae sildenaffil yn gynhwysyn actif yn Revatio, Vizarsin, Viagra, Sildenafil Teva, Sildenafil Ratiopharm a Sildenafil Actavis .
Sgil effeithiau
golyguYmysg sgil effeithiau cyffredin sildenaffil mae:
- cur pen
- gwrido
- llesmair
- diffyg traul
- gorlenwad trwyn (trwyn di blocio)
- aneglurder golwg
- problemau adnabod lliwiau
Ymysg sgil effeithiau difrifol sildenaffil mae poen yn y frest a chlefyd Priapus (codiad parhaus). Dylid ymofyn cymorth meddygol brys ar unwaith am boenau yn y frest gysylltiedig â'r cyffur ac os yw codiad yn para am fwy na phedair awr.
Argaeledd
golyguYng Nghymru a Lloegr mae modd i ddynion dros 18 oed cael Fiagra gan fferyllydd, heb ragnodyn cyn belled a bod y fferyllydd yn derbyn bod y cwsmer yn pasio meini prawf sy'n caniatáu iddo ei werthu iddo[3].
Defnydd meddygol
golyguFe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
golyguCaiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw sildenaffil, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pubchem. "Sildenaffil". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ BMA New Guide to Medicine & Drugs. DK. 2015. tt. 385. ISBN 9780241183410.
- ↑ BBC - Viagra can be sold over the counter adalwyd 12 Mawrth 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |