Victoria Azarenka
Chwaraewraig tenis o Felarws yw Victória Fyódorovna Azárenka (Belarwseg: Вікторыя Фёдараўна Азаранка; ganwyd 31 Gorffennaf 1989). Hi yw'r unig chwaraewr neu chwaraewraig tenis o Felarws i ennill un o gystadlaethau senglau'r Gamp Lawn, a hynny ym Mhencampwriaeth Agored Awstralia yn 2012 a 2013.
Victoria Azarenka | |
---|---|
Ganwyd | 31 Gorffennaf 1989 Minsk |
Man preswyl | Monte-Carlo |
Dinasyddiaeth | Belarws |
Galwedigaeth | chwaraewr tenis |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 70 cilogram |
Partner | Sergei Bubka |
Gwobr/au | Honored Master of Sports of the Republic of Belarus, Order of Honor |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Belarus Billie Jean King Cup team |
Gwlad chwaraeon | Belarws |
Ganwyd ym Minsk yn yr Undeb Sofietaidd. Dechreuodd chwarae tenis yn 7 oed. Dechreuodd chwarae'n broffesiynol ar Gylchdaith yr ITF yn 2003, a symudodd i Scottsdale, Arizona, i gael ei hyfforddi. Cafodd ei dewis i chwarae ar dîm Belarws yng Nghwpan y Ffed yn 2005 (ac eto yn 2007, 2009–11, a 2015). Cyrhaeddodd rhestr y 100 uchaf yn nhymor 2006, y 30 uchaf yn 2007, a'r 20 uchaf yn 2008. Enillodd y gystadleuaeth parau cymysg gyda Max Mirnyi ym Mhencampwriaeth Agored UDA yn 2007, a chyda Bob Bryan yn Roland Garros yn 2008. Enillodd gystadlaethau Brisbane, Memphis a Miami yn 2009, gan orffen y tymor ar safle 7 yn y byd. Enillodd yn Stanford a Moscfa yn 2010, a Miami, Marbella a Lwcsembwrg yn 2011 gan gyrraedd safle 3 ar ddiwedd y tymor hwnnw.
Enillodd Bencampwriaeth Agored Awstralia yn Ionawr 2012, gan neidio o safle 3 i 1.[1] Yn ogystal â chipio'i thlws gyntaf o'r Gamp Lawn, enillodd yn Sydney, Doha, Indian Wells, Beijing a Linz y flwyddyn honno. Enillodd Bencapwriaeth Agored Awstralia eilwaith,[2] a hefyd twrnameintiau Doha a Cincinnati, yn 2013. Cyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth Agored UDA yn 2012 a 2013, a rowndiau cynderfynol Wimbledon yn 2011 a 2012 a Roland Garros yn 2013. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 enillodd fedal efydd yng nghystadleuaeth senglau'r menywod a'r fedal aur, gyda Max Mirnyi, yng nghystadleuaeth y parau cymysg.
Cafodd ei tharo gan anafiadau yn ystod tymor 2014, a ni enillodd unrhyw gystadlaethau'r flwyddyn honno, nac ychwaith yn 2015. Syrthiodd i safle 32 ar ddiwedd 2014, ond dringodd yn ôl i 22 flwyddyn yn ddiweddarach. Dechreuodd wella'i chwarae tua diwedd y tymor wrth iddi gyrraedd y rownd gogynderfynol ym Mhencampwriaeth Agored UDA.[3] Wedi iddi ennill yn Brisbane, Indian Wells a Miami ar ddechrau 2016,[4] cyrhaeddodd safle 6 yn y byd. Cafodd ei tharo gan anafiadau i'w chefn a'i phen-glin yng nghanol y tymor, ac o ganlyniad gadawodd ei gornest gyntaf yn Roland Garros a ni chystadleuodd yn Wimbledon.[5] Ym mis Gorffennaf 2016 cyhoeddodd ei bod yn feichiog ac felly am gymryd saib yn ei gyrfa nes ar ôl yr enedigaeth.[6]
Mae Azarenka'n chwarae gyda'i llaw dde, ac yn hoff o ddefnyddio trawiad gwrthlaw deulaw. Mae'n tueddu i aros ar y llinell fas a chwarae rali gyflym.[7] Chwaraeir orau ar gyrtiau caled a chlai.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Victoria Azarenka routs Sharapova, ESPN (29 Ionawr 2012). Adalwyd 8 Awst 2016.
- ↑ (Saesneg) It's a Rough-and-Tumble Path to a Title Repeat for Azarenka, The New York Times (26 Ionawr 2013). Adalwyd 8 Awst 2016.
- ↑ (Saesneg) Injury-plagued Victoria Azarenka shows glimpses of old form at US Open, The Guardian (7 Medi 2015). Adalwyd 8 Awst 2016.
- ↑ (Saesneg) Victoria Azarenka crushes Svetlana Kuznetsova for third Miami Open title, The Guardian (3 Ebrill 2016). Adalwyd 8 Awst 2016.
- ↑ (Saesneg) Azarenka withdraws from Wimbledon with knee injury suffered at Roland Garros Archifwyd 2016-07-27 yn y Peiriant Wayback, TENNIS.com (23 Mehefin 2016). Adalwyd 8 Awst 2016.
- ↑ (Saesneg) Azarenka announces she's pregnant, plans to resume career after baby is born Archifwyd 2016-07-31 yn y Peiriant Wayback, TENNIS.com (15 Gorffennaf 2016). Adalwyd 8 Awst 2016.
- ↑ (Saesneg) Player Program: Victoria Azarenka Archifwyd 2014-02-19 yn y Peiriant Wayback, Team Fenom. Adalwyd 8 Awst 2016.
- ↑ (Saesneg) Proffil Victoria Azarenka Archifwyd 2012-06-02 yn y Peiriant Wayback ar wefan yr ITF. Adalwyd 8 Awst 2016.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Proffil Victoria Azarenka ar wefan y WTA
- (Saesneg) Proffil Victoria Azarenka ar wefan Eurosport