Vinyāsa

y trawsnewid rhwng dau safle, dwy asana o fewn ioga
(Ailgyfeiriad o Vinyasa)

Cyfres llyfn o symudiadau, neu asanas ioga yw vinyasa[1] (Sansgrit: विन्यास, IAST: vinyāsa), sy'n eitha modern o'i gymharu gyda ioga clasurol. Ymhlith yr enghreifftiau y mae: Ioga Viasa Krama, Ioga Ashtanga Vinyasa a Ioga Bikram, sy'n emarferion cadw'n heini hefyd.

Vinyāsa
Enghraifft o'r canlynolcyfres Edit this on Wikidata
Mathioga Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ioga Hasta Vinyasas Pristanjali neu'r 'Weddi Tu Chwith'

Disgrifiad

golygu

Ceir sawl enghraifft nodedig arall gan gynnwys Ioga Ashtanga Vinyasa a sefydlwyd yn 1948 gan Pattabhi Jois a'i ysgolion, Power Yoga 1995 gan Beryl Bender Birch, Ioga Baptiste gan Ioga Jivamukti, Ioga Vinyasa Flow, Ioga Power Vinyasa, a Ioga Core Strength Vinyasa, a sefydlwyd ar waithKrishnamacharya (1888 – 989; ioga arddull aerobig) ar ddechrau'r 20g.[2][3]

Y defnydd gan Krishnamacharya

golygu

Yn ôl hanes swyddogol Ioga Ashtanga Vinyasa, dysgodd Krishnamacharya y system gyflawn o asanas (osgo) a vinyasas (trawsnewidiadau) o ddogfen nad oedd yn hysbys fel arall, yr Ioga Kurunta, a ysgrifennwyd yn ôl pob sôn 5,000 o flynyddoedd yn ôl gan Vamana Rishi; mae'r hanes yn dweud bod Krishnamacharya wedi ei gopïo a'i ddysgu, heb ei addasu, i Pattabhi Jois. Fodd bynnag, yn ôl pob sôn dinistriwyd y llawysgrif wreiddiol gan forgrug, ac nid oes copi wedi goroesi; ni wnaeth Jois nac unrhyw un arall o ddisgyblion Krishnamacharya ei drawsgrifio, fel y byddai disgwyl mewn perthynas guru - shishya draddodiadol.

Ymhellach, ni ddyfynnodd Krishnamacharya "o fawr syndod"[2] y testun yn ei Ioga Makaranda yn 1935 na'i gyhoeddiad c. 1941 Yogasanagalu.[2] Roedd y Yogasanagalu yn cynnwys tablau o asanas a vinyasas, ac mae'r rhain yn "debyg"[2] i system Jois, ond ymhell o fod yn sefydlog fel yr ysgrifennwyd mewn llawysgrif hynafol, roedd arddull ioga Krishnamacharya yn "neidio" yn gyson ym mhalas Mysore. Fe'i adaswyd yn aml i anghenion disgyblion penodol yn ôl eu hoedran, cyfansoddiadau (deha), galwedigaethau (vrttibheda), galluoedd (sakti), a llwybrau (marga);[2] ac roedd y dull yn "arbrofol".[2]

Mewn cyferbyniad, roedd y system a ddysgodd Krishnamacharya i Jois ac a ddaeth yn sail i Ashtanga Vinyasa Yoga yn sefydlog. Efallai bod hyn oherwydd bod yn rhaid i Jois ddysgu yn y Sansgrit Pathasala ym 1933, tra bod disgyblion eraill Krishnamacharya yn astudio yn ei Yogasala, felly efallai ei fod, wedi dysgu dilyniant sefydlog syml i Jois, 18 oed, sy'n addas ar gyfer athro newydd i'w ddefnyddio gyda grwpiau mawr o fechgyn.[2] Mae Norman Sjoman yn nodi bod Krishnamacharya wedi dyfynnu Sritattvanidhi o'r 19g sy'n dogfennu asanas a ddefnyddiwyd ym mhalas Mysore yn ei ysgrifau cynnar; datblygodd ei vinyasas cynnar yn ffurfiau mwy tebyg i rai Jois, rhywbeth y mae Sjoman yn ei gymryd fel tystiolaeth a greodd Krishnamacharya yn hytrach nag etifeddu'r vinyasas: "Nid oedd yn fformat etifeddol".[4][5]

Defnyddiodd Krishnamacharya y "vinyasa" mewn o leiaf dwy ffordd wahanol. Roedd y nail yn golygu "cyfres o gamau ( krama ) wedi'u llunio'n briodol ar gyfer osgo penodol";[6] oedd y llall yn "nodi sut i weithredu'r asana penodol". Er enghraifft, cyflwynir dilyniant Sarvangasana gyda'r geiriau "Mae gan hwn 12 vinyasa (cam). Yr 8fed vinyasa yw'r sthiti asana (yr osgo go iawn)." [7]

Defnydd Pattabhi Jois

golygu

Mewn cyferbyniad, defnyddiodd Pattabhi Jois "vinyasa" mewn ystyr culach i olygu "y symudiadau cysylltu ailadroddus" rhwng asanas Ioga Ashtanga Vinyasa.[2] Mae'r athro ioga Ashtanga Gregor Maehle yn esbonio bod yr arddull yma o asanas yn llifo'n naturiol "yn cynorthwyo llif y myfyrdod".[8] Yn ôl cyfweliad â Jois, roedd y dilyniannau vinyasa a ddefnyddiwyd yn yr arddangosiadau teithiol o ioga Krishnamacharya, "bron yn union yr un fath â sgema aerobig" Ioga Ashtanga Vinyasa modern, sef "sawl 'cyfres' unigryw y mae pob prif asana yn cael eu cyd-gysylltu, ailadroddus, sy'n cysylltu cyfres o ystumiau a neidiau yn seiliedig ar fodel Surya Namaskar".[2]

Defnydd Sharath Jois

golygu

Mae ioga vinyasa modern fel sy'n cael ei ddysgu gan Sharath Jois (ŵyr Pattabhi Jois) yn cydlynu'r anadl â'r symudiadau pontio vinyasa rhwng yr asanas.[9] Defnyddir dilyniant penodol o asanas, a elwir hefyd yn vinyasa, dro ar ôl tro mewn dosbarthiadau Ioga Ashtanga Vinyasa; mae'n cynnwys Chaturanga Dandasana (Ffon Isel), Urdhva Mukha Svanasana (Ci ar i Fyny) ac Adho Mukha Svanasana (Ci ar i Lawr) i gysylltu asanas eraill.[9] Mae Sharath Jois yn diffinio vinyasa fel system anadlu a symud.[10]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Vinyasa". Lexico. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-21. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2019. Definition of vinyasa in English:... Origin Sanskrit vinyāsa ‘movement, position (of limbs)’.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 2.8 Singleton 2010.
  3. "Vinyasa Yoga". Yoga Journal. Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
  4. Sjoman 1999.
  5. Cushman, Anne (Jul–Aug 1999). New Light on Yoga. t. 43. ISSN 0191-0965.
  6. Singleton 2010, t. 190.
  7. Krishnamacharya 2006, t. 146.
  8. Maehle, Gregor (2007). Ashtanga yoga : practice and philosophy : a comprehensive description of the primary series of Ashtanga yoga, following the traditional Vinyasa count, and an authentic explanation of the Yoga Sutra of Patanjali. New World Library. t. 294. ISBN 978-1-57731-606-0. OCLC 776703947. Sequential movement that interlinks postures to form a continuous flow. It creates a movement meditation that reveals all forms as being impermanent and for this reason are not held on to.
  9. 9.0 9.1 "Vinyasa Yoga Sequences". Yoga Journal. Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
  10. "THE PRACTICE | SHARATH JOIS". sharathjois.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Chwefror 2019. Cyrchwyd 21 Chwefror 2019.

Llyfryddiaeth

golygu

Dolenni allanol

golygu
  •   Cyfryngau perthnasol Vinyasa ar Gomin Wicimedia